The Welsh Dragon

Pan fydd muriau castell yng Nghymru yn dechrau chwalu oherwydd y ddwy ddraig sy'n byw yn y dwnsiwn, dim ond rhywun o dreftadaeth Gymreig pur all stopio'r frwydr... ond sut yn union ydych chi'n gwybod os ydy rhywun yn Gymro ai peidio?

Yn cynnwys cerddoriaeth, rap, a thro hanesyddol, mae'r ddrama newydd arloesol hon i blant yn archwilio llinach ddu Prydain, gan ein herio i gwestiynu'r straeon sydd wedi'u trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth.

Yn ddoniol, cyflym ac yn ysgogi'r meddwl, mae The Welsh Dragon yn plethu'r myth adnabyddus ynghyd â gwirioneddau cudd hanesyddol i archwilio hunaniaeth, ethnigrwydd, a tharddiad bywyd dynol ar Ynysoedd Prydain.


Canllaw Oed: 7-13 oed

Tocynnau | £8.50, £6.50 & £26

Info Cyflym

  • Cwmni: Theatr Iolo
  • Categori: Drama
  • Theatr: Ffwrnes Llanelli

Info Cyflym

  • Cwmni: Theatr Iolo
  • Categori: Drama
  • Theatr: Ffwrnes Llanelli