Theatre Skills: Improv for young people with Frankie Williams

Dewch i ymuno â'n sesiwn ragflas am ddim mewn sgiliau byrfyfyrio gyda'r actores a’r ddigrifwraig Frankie Williams sy’n gweithio yn myd y theatr a'r hwylusydd llwyddiannus Jo Shackley. 

Bydd y sesiwn yn gyfle i rannu ac archwilio amrywiaeth o ymarferion byrfyfyrio creadigol a hwyliog – gan eich helpu i feddwl ar eich traed. 

Gall byrfyfyrio helpu i gefnogi gyrfa mewn actio, gwneud theatr, comedi stand-yp, ysgrifennu, helpu o ran clyweliadau a llawer mwy. Gall byrfyfyrio helpu i gynnal gyrfa mewn actio, creu theatr, comedi stand-yp, ysgrifennu, helpu o ran clyweliadau a llawer mwy. Gall helpu gyda hyder, gwaith tîm, meithrin cysylltiad ag eraill a byw yn y funud. 

Does dim angen profiad. Gwisgwch eich dillad cyfforddus er mwyn symud yn hwylus a dewch i roi cynnig arni. 

Ar gyfer pobl 16-24 oed.

Tocynnau am ddim (cysylltwch â ni ar 03452263510 neu theatrau@sirgar.gov.uk i roi gwybod i ni am eich anghenion mynediad).

Mae Frankie Williams yn actores, yn awdur ac yn ddigrifwraig stand-yp. Fel byrfyfyriwr, mae hi wedi hyfforddi gyda The Second City, Hoopla Improv, London Improv Theatre a Mischief Theatre. 

Mae Frankie yn defnyddio technegau byrfyfyrio yn ei gwaith fel awdur a pherfformwraig yn ogystal ag yn ei bywyd bob dydd, pryd bynnag y mae angen iddi feddwl ar ei thraed! 

Mae Frankie yn hyrwyddo pŵer trawsnewidiol byrfyfyrio fel offeryn ar gyfer creadigrwydd, hyblygrwydd a llesiant cyffredinol. 

Yn ogystal â'i gwaith fel perfformwraig, mae hi'n gweithio'n rheolaidd mewn ysgolion ledled y DU, gan hyfforddi pobl ifanc ar sgiliau cyfathrebu a siarad cyhoeddus. 

Bydd ei sioe lwyfan gyntaf 'I Need A Hero (Not About Bonnie Tyler)', sef sioe gerdd gomedi, yn cael ei chynhyrchu yn 2027 gan Grand Ambition.

Info Cyflym

  • Cwmni: Theatrau Sir Gâr
  • Categori: Other Artforms
  • Theatr: Ffwrnes Llanelli - Crochan

Info Cyflym

  • Cwmni: Theatrau Sir Gâr
  • Categori: Other Artforms
  • Theatr: Ffwrnes Llanelli - Crochan