Ti Werth Y Byd Sali Mali

Ti werth y byd, Sali Mali!

Paratowch am antur hudolus, liwgar a llawn hwyl gyda Sali Mali a’i ffrindiau!

Dewch i gamu i fyd arbennig cymeriadau hoffus Mary Vaughan Jones wrth iddyn nhw ddod yn fyw ar lwyfan mewn drama newydd sbon i blant bach a’u teuluoedd.

Gyda cherddoriaeth, caneuon a digonedd o chwerthin, bydd Cwmni Theatr Arad Goch yn eich tywys ar antur gyffrous, gan ddathlu’r hyn sy’n ein gwneud ni i gyd yn arbennig ac yn unigryw. Oherwydd mae gan bawb eu doniau eu hunain, ac mae gan bawb rywbeth arbennig i’w gynnig!

Dewch i ganu, chwarae a chael eich swyno gan fyd Sali Mali mewn cynhyrchiad llawn dychymyg, cynhesrwydd a hud, yn arddull unigryw Arad Goch.

Ymunwch â ni am antur theatrig arbennig yr haf hwn – a chofiwch, ti werth y byd!

*Cynhyrchiad Cymraeg ond yn addas ar gyfer siaradwyr Cymraeg newydd*

Oedran: 2–7 oed a’u teuluoedd

Hyd: Tua 50 munud

Tocynnau £11 | £8

£8 pris ysgol (1 athro am ddim gyda phob 10 disgybl) - Cysylltwch â'r Swyddfa Docynnau ar 0345 2263510 neu e-bostiwch theatrau@sirgar.gov.uk

Info Cyflym

  • Cwmni: Arad Goch
  • Categori: Family
  • Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen

Info Cyflym

  • Cwmni: Arad Goch
  • Categori: Family
  • Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen