Tommy Cooper - Have I Got Time for More?

Cynhyrchiad newydd sbon gan y tîm a gyflwynodd Steptoe & Son i chi!

Mae Tommy Cooper, un o'r comedïwyr gorau erioed, yn ôl! Dyma berfformiad medrus gan Phil Hoyles – prif ddynwaredwr y DU – ac mae'n dod â'r holl ddwli, jôcs, caneuon, chwerthin, hud, hud sy'n methu, ac egni a gyflwynodd y dyn doniol gwreiddiol yr holl flynyddoedd hynny yn ôl!

Mae'r cylchgrawn theatr enwog The Stage yn disgrifio portread Phil fel "a carbon copy in look, voice and humour" a "as near to the genuine article as you can get"! Mae'n dal, yn ddoniol ac mae'n gwisgo ffès – y cyfan oll sydd ei angen arnon ni yw chi!

Dewch draw ac ymunwch â ni am noson o hel atgofion a chwerthin yn braf. Mae'r sioe hon hefyd yn cael ei chynhyrchu gan Cattle Productions Ltd, sy'n arbennig am adfywio ac ail-greu comedi clasurol, gan sicrhau nad yw'r gwir eiconau hyn byth yn cael eu hanghofio.

Bydd elw o'r sioe hon yn mynd tuag at gefnogi elusen leol, Cerebra, sy'n helpu plant â chyflyrau'r ymennydd a'u teuluoedd i ddarganfod bywyd gwell gyda'i gilydd.

Tocynnau: £23.50

Info Cyflym

  • Cwmni: Cattle Productions
  • Categori: Drama
  • Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen

Info Cyflym

  • Cwmni: Cattle Productions
  • Categori: Drama
  • Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen