Twist and Shout

Twist & Shout
Taith gerddorol llawn hwyl yn ôl i'r chwe degau!

Mae cast llawn sêr y West End yn cyflwyno sioe gerddorol bwerus sy'n dechrau gyda ffrwydrad Brit Pop yn 1962 hyd at gyfnod Flower Power a Free Love ddiwedd y chwe degau.

Mae'r sioe, sy’n dathlu ei phen-blwydd yn 10 oed, wedi gwneud 364 o berfformiadau anhygoel hyd yma, ac mae'n parhau i gipio calonnau a chyflwyno bywiogrwydd y chwe degau. Dewch i hel atgofion mewn cyngerdd cerddoriaeth y chwe degau. Gwahoddir pobl sy'n dwlu ar gerddoriaeth i ddychwelyd i gyfnod pan oedd sgertiau yn fyrrach a gwallt yn hirach, wrth i gast anhygoel adfywio caneuon poblogaidd The Beatles, Herman's Hermits, Gerry and the Pacemakers, The Rolling Stones, Cilla Black, Manfred Mann, Dusty Springfield, Lulu, Sandy Shaw a llawer mwy.

Mae perfformiadau gwych a gwisgoedd hardd, unigryw yn mynd â ni yn ôl i olygfeydd a synau'r Chwe Degau Bywiog. Mae'r wledd gerddorol ddi-stop yn cynnwys 40 cân, fel She Loves You, Glad All Over, You're My World, Jumpin' Jack Flash, Something Tells Me I'm Into Something Good, Shout, Ferry Cross The Mersey a llawer mwy.

Dywedir "Os ydych chi'n cofio'r chwe degau, doeddech chi'n wir ddim yno”. Mae Twist and Shout yn gyfle i ddarganfod yr hyn a golloch chi!

Tocynnau £32

Info Cyflym

  • Cwmni: RED Entertainment
  • Categori: Music
  • Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen

Info Cyflym

  • Cwmni: RED Entertainment
  • Categori: Music
  • Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen