Wythnos Yng Nghymru Fydd
Mae o wedi gweld y dyfodol. Dwywaith.
Mae Ifan yn byw ar yr ymyl. Yn cadw pawb hyd braich, yn yfed yn galed, yn chwerthin yn
uwch na neb arall. Dydy o byth yn edrych yn ôl. Ond mae un person yn aros yn ei feddwl -
Mair.
Wrth i storm wleidyddol godi yng Ngogledd Cymru, mae Ifan yn cael ei daflu ymlaen
ddegawdau mewn amser. Dwywaith.
Mae un dyfodol yn cynnig Cymru rydd yn llawn cariad a gobaith. Mae’r llall yn fyd llwm heb
iaith, ffiniau, a chymuned. Yn y ddau fyd mae Mair. Rhyngddynt mae’r presennol - a rhaid i
Ifan ddewis.
Yn llawn cariad, emosiwn a chynnwrf gwleidyddol, mae Wythnos yng Nghymru Fydd, wedi’i
ysgrifennu gan Mared Llywelyn Williams a’i chyfarwyddo gan Gethin Evans, yn
ail-ddychmygiad beiddgar o glasur Islwyn Ffowc Elis sy’n gofyn pa ddyfodol sy’n cael ei greu
gan ein heddiw?
Sioe Gymraeg
Addas i 12+
Tocynnau £20.50 | £18.50
- 13 Hyd, 19:30 ARCHEBWCH NAWR
Info Cyflym
- Cwmni: Frân Wen
- Categori: Drama
- Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen
Info Cyflym
- Cwmni: Frân Wen
- Categori: Drama
- Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen