Wythnos Yng Nghymru Fydd - Ysgolion | Schools
Mae o wedi gweld y dyfodol. Dwywaith.
Mae Ifan yn byw ar yr ymyl. Yn cadw pawb hyd braich, yn yfed yn galed, yn chwerthin yn uwch na neb arall. Dydy o byth yn edrych yn ôl. Ond mae un person yn aros yn ei feddwl - Mair.
Wrth i storm wleidyddol godi yng Ngogledd Cymru, mae Ifan yn cael ei daflu ymlaen ddegawdau mewn amser. Dwywaith.
Mae un dyfodol yn cynnig Cymru rydd yn llawn cariad a gobaith. Mae’r llall yn fyd llwm heb iaith, ffiniau, a chymuned. Yn y ddau fyd mae Mair. Rhyngddynt mae’r presennol - a rhaid i Ifan ddewis.
Yn llawn cariad, emosiwn a chynnwrf gwleidyddol, mae Wythnos yng Nghymru Fydd, wedi’i ysgrifennu gan Mared Llywelyn Williams a’i chyfarwyddo gan Gethin Evans, yn ail-ddychmygiad beiddgar o glasur Islwyn Ffowc Elis sy’n gofyn pa ddyfodol sy’n cael ei greu gan ein heddiw?
Sioe Gymraeg
Canllaw oed: 12+
Tocynnau | £10.50 & athrawon 1 mewn 10 am ddim
Sut i archebu
Cysylltwch â'r Swyddfa Docynnau i archebu eich tocynnau, e-bostiwch: theatrau@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 0345 2263510.
- 13 Hyd, 12:30 WEDI'I WERTHU ALLAN (Ysgolion | Schools)
Info Cyflym
- Cwmni: Frân Wen
- Categori: Drama
- Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen
Info Cyflym
- Cwmni: Frân Wen
- Categori: Drama
- Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen