Y Tir Bach | Little Lands
Daw’r creaduriaid bach yn eu llu
Dros y bryniau neu fyny fry
Mae rhywbeth yn siffrwd…
Yn ein wlad pob man ni’n teithio
Yn ein wlad feindio storiau syn cuddio
Dewch i weld…
Hedfan, nofio neu gropio
yma y dônt yn eu tro.
Dilyn ni…
Mae'r tiroedd hyn yn llawn straeon, antur, ac mae cymaint i'w ddarganfod... Edrychwch o dan yr wyneb a byddwch chi'n dod o hyd i greaduriaid rhyfedd a rhyfeddol, harddwch syfrdanol, a straeon direidus hen a newydd.
Ymunwch â ni am straeon dwyieithog gwreiddiol wedi'u hysbrydoli gan harddwch tirwedd Cymru a dathliad o natur, cerddoriaeth ac adrodd straeon. Mae hwn yn brosiect a grëwyd gyda chymunedau ledled Cymru ac ar gyfer cymunedau ledled Cymru gan Flossy and Boo, Sefydliad y Glowyr y Coed-duon a Green Squirrel.
Mae Y Tir Bach yn sioe theatr ryngweithiol sy'n addas i deuluoedd a phrosiect cymunedol celfyddydau creadigol sy'n addas i bob oedran. Bydd yn rhoi sylw i wahanol amgylcheddau, creaduriaid mewn perygl, gan lifo'n hyfryd rhwng y Saesneg a'r Gymraeg.
Wedi'i ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru
Sioe ddwyieithog
Tocynnau: £8.50
- 31 Maw, 11:00 ARCHEBWCH NAWR
- 31 Maw, 14:00 ARCHEBWCH NAWR
Info Cyflym
- Cwmni: Flossy and Boo
- Categori: Family
- Theatr: Ffwrnes, Stiwdio Stepni
Info Cyflym
- Cwmni: Flossy and Boo
- Categori: Family
- Theatr: Ffwrnes, Stiwdio Stepni