28 Medi 2026
Cast wedi’i gyhoeddi ar gyfer pantomeim Dick Whittington yn Theatr y Lyric, Caerfyrddin
Cast wedi’i gyhoeddi ar gyfer pantomime Dick Whittington yn Theatr y Lyric, Caerfyrddin
Mae tymor y pantomeim yn prysur nesáu, ac mae Theatr y Lyric yng Nghaerfyrddin yn paratoi i groesawu cynulleidfaoedd ar antur hudolus y Nadolig hwn gyda Dick Whittington. Yn llawn hwyl i’r teulu cyfan, gwisgoedd ysblennydd, rhifau cerddorol trawiadol ac yn cynnwys un o ddames gorau’r wlad, mae cynhyrchiad eleni yn addo bod yn wledd Nadoligaidd fythgofiadwy.
Am y bedwaredd flwyddyn yn olynol, mae Theatrau Sir Gâr yn falch o fod yn partneru ag un o gynhyrchwyr pantomeim mwyaf blaenllaw’r DU, Imagine Theatre, i ddod â’r cynhyrchiad ysblennydd hwn i lwyfan y Lyric.
Mae Steve Elias yn falch iawn o gael dychwelyd i'w dref enedigol i chwarae'r ‘panto dame’ am y drydedd flwyddyn yn olynol. Roedd wrth ei fodd yn cynrychioli Caerfyrddin yn the 2026 National Panto Awards ac roedd yn falch o gael ei enwebu ar gyfer Gwobr Stanley Baxter - Best Dame! Mae Steve wedi perfformio mewn sioeau cerdd yn y West End yn Llundain ac mae hefyd yn Gyfarwyddwr a Choreograffydd arobryn.
Dyma'r ail flwyddyn y bydd y digrifwr stand-yp a phodledwr o Gaerfyrddin, Elis James, yn ymuno â ni yn dilyn ei ymddangosiad pantomeim llwyddiannus y Nadolig diwethaf. Y tro hwn, bydd yn rhoi sylw i anhrefn y pantomeim yn The Spirit of the Bells.
Bydd ein harwr, yr anturus Dick Whittington, yn cael ei chwarae gan yr actor a'r canwr gwych o Gaerfyrddin, Gareth Elis. Mae Gareth yn ailymuno â ni ar ôl ymddangos fel Jack yn ein pantomeim Nadolig 2023, Jack and the Beanstalk. Bydd Gareth yn wyneb cyfarwydd i nifer o wylwyr ifanc S4C fel cyflwynydd rheolaidd rhaglen fore Sadwrn Stwnsh ar S4C.
Bydd Alice Fitzwarren yn cael ei chwarae gan Alice Mayer sy'n hanu o Ynys Môn. Mae'n nhw'n rhannu yr un enw, ac yn rhannu'r un brwdfrydedd a CV trawiadol o rolau perfformio byw fel actores a cherddor.
Bydd y dawnsiwr proffesiynol a anwyd yn yr Alban, Shaun McGregor, yn ymgymryd â rôl Twm the Cat. Mae'r gath chwilfrydig hon yn sicr o fod yn boblogaidd wrth iddo arddangos ei sgiliau acrobatig a dawns trawiadol.
Mae hi mor dda am fod yn ddrwg, roedd yn rhaid i ni ei gwahodd yn ôl! Bydd Alexandra George, yr actores a'r gantores a anwyd yng Nghaerfyrddin a'i llais hyfryd yn dychwelyd i'r Lyric ar gyfer ei thrydydd panto, y tro hwn yn ymgymryd â rôl y Queen Rat.
Ac yn cwblhau’r prif gast mae’r bywiog Nathan Guy, sy’n dychwelyd i Gaerfyrddin i chwarae rhan yr hoff gymeriad direidus Idle Jack. Yn berfformiwr pantomeim hynod brofiadol, mae Nathan wedi ymddangos yng nghynyrchiadau Imagine Theatre ers dros ddegawd ac mae wrth ei fodd yn dychwelyd am dymor Nadoligaidd arall llawn chwerthin, cyfranogiad y gynulleidfa ac ychydig o hud Cymreig.
Perfformiadau Hygyrch
Mae Theatr y Lyric yn falch o gynnig ystod o berfformiadau hygyrch yn ystod rhediad y sioe:
Perfformiadau Ymlaciedig: 16 Rhagfyr am 6pm a 18 Rhagfyr am 10am
Perfformiadau gydag Iaith Arwyddion Prydain (BSL): 18 Rhagfyr am 7pm a 22 Rhagfyr am 2pm
Perfformiadau Ysgolion: 14-17 Rhagfyr, ynghyd â pherfformiadau am 10am ac 1pm ar 15 Rhagfyr
Gan fod tocynnau eisoes yn gwerthu’n gyflym, anogir teuluoedd i archebu’n gynnar er mwyn sicrhau eu seddi. Mae prisiau tocynnau’n dechrau o ddim ond £14.50, gyda gostyngiadau ar gael i grwpiau ac ysgolion.
Manylion y Digwyddiad
Sioe: Dick Whittington
Dyddiadau: 10-28 Rhagfyr 2026
Lleoliad: Theatr y Lyric, Heol y Brenin, Caerfyrddin
Tocynnau: 0345 226 3510
Gwefan: www.theatrausirgar.co.uk
Bydd Dick Whittington yn Theatr y Lyric, Caerfyrddin rhwng 10 a 28 Rhagfyr 2026.
Am docynnau a rhagor o wybodaeth, ewch i dudalen archebu Dick Whittington, ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 0345 226 3510, neu e-bostiwch theatres@carmarthenshire.gov.uk. Mae archebion grŵp yn cael eu croesawu.