Dick Whittington

Mae'r gath mas o'r cwd... Mae Dick Whittington yn dod i'r Lyric yn 2026!

Bydd y pantomeim teuluol clasurol hwn yn llawn gwisgoedd disglair, caneuon gafaelgar, chwerthin iach, a hen ddigon o ddrygioni panto!

Ar ôl i Dick sylweddoli ei fod heb yr un geiniog, mae'n dechrau ar daith i Lundain, lle mae'r strydoedd yn llawn aur yn ôl y sôn. Ac, wrth gwrs, mae ei gath ddibynadwy yn ymuno ag ef ar gyfer yr antur hon.

Gallwch ddisgwyl hwyl tylwyth teg, setiau hudolus, a chast trawiadol, a byddwch chi'n cymeradwyo, yn bwio, ac yn canu o'r dechrau i'r diwedd.

Archebwch eich tocynnau nawr ar gyfer Dick Whittington yn Theatr y Lyric yng Nghaerfyrddin — traddodiad hudolus Nadoligaidd nad oes neb am ei golli!

Yn dilyn llwyddiant Snow White, mae Theatrau Sir Gâr yn falch iawn o gael cefnogaeth Imagine Theatre unwaith eto eleni.

Archebwch nawr am brisiau 2025
Bydd y tocynnau'n aros ar bris 2025 tan 2026 - archebwch nawr ac arbedwch ar bob tocyn Dick Whittington

Gostyngiad Grŵp: Prynwch 10+ a bydd pob tocyn ar y pris consesiwn.

Prisiau Tocynnau Cynnar
Gostyngol: £16.50, £14.50 & £58
Safonol: £20, £18 & £72
Premiwm: £23, £20 & £80

Prisiau Tocynnau ar ôl 1 Hydref 2026
Gostyngol: £17.50, £15.50 & £62
Safonol: £22, £20 & £80
Premiwm: £24, £22 & £88

Rhybudd
Sylwch y bydd goleuadau strôb, pyrotechneg a mwg theatrig yn cael eu defnyddio yn ystod y perfformiad hwn.

Eistedd ar Liniau 
Os ydych chi'n dod â phlentyn 18 mis oed neu iau, gall fynd gyda chi am ddim os ydych chi'n dewis y tocyn eistedd ar liniau. Sylwer, dim ond ar y llawr gwaelod y gall plant eistedd ar liniau oedolion.

Perfformiad BSL
Nos Wener 18 Rhagfyr 7pm
Dydd Mawrth 22 Rhagfyr 2pm

Beth yw perfformiad wedi'i gyfieithu i Iaith Arwyddion Prydain (BSL)? Ym mherfformiadau Iaith Arwyddion Prydain, mae arwyddwyr hyfforddedig yn cyfieithu'r sgript a'r iaith a ddefnyddir gan y perfformwyr wrth i hynny ddigwydd. Bydd y cyfieithydd yn ar y dde ochr y llwyfan (wrth edrych o'r gynulleidfa).

Perfformiad Ymlaciedig
Nos Fercher 16 Rhagfyr 6pm
Bore Gwener 18 Rhagfyr 10am

Beth yw perfformiad ymlaciedig? Mae perfformiadau ymlaciedig yn agored i bawb, ac wedi'u cynllunio'n benodol ar gyfer plant, pobl ifanc neu oedolion a allai fod ag anableddau, anghenion cymorth ychwanegol a'r rheiny sydd ar y sbectrwm awtistig. Dim pyrotechneg na goleuadau strôb Bydd y sain hefyd ar lefel is Bydd y goleuadau tŷ yn aros ymlaen ond yn pylu Bydd y gynulleidfa’n gallu mynd a dod o’r awditoriwm os dymunant.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch a'n tim Swyddfa Docynnau ar theatrau@sirgar.gov.uk neu 0345 2263510

Gweler y stori weledol ar gyfer Y Lyric yma.

Info Cyflym

  • Cwmni: Cynhyrchiad Theatrau Sir Gâr Production
  • Categori: Christmas Show
  • Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen

Info Cyflym

  • Cwmni: Cynhyrchiad Theatrau Sir Gâr Production
  • Categori: Christmas Show
  • Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen