Fabba Mania at Christmas
Y Nadolig hwn yn y Ffwrnes, Llanelli, dewch i fwynhau Fabba Mania wrth iddyn berfformio caneuon mwyaf poblogaidd ABBA yn fyw, gyda cherddorfa fyw ysblennydd o 16!
Mae Fabba Mania yn un o ddeuawdau ABBA gorau y DU, sy'n perfformio i gynulleidfaoedd ledled Cymru, ac ym mis Rhagfyr maen nhw'n dychwelyd i ymuno â Cherddorfa Ffilm Cymru am noson fythgofiadwy arall o adloniant.
Byddwch yn barod i fwynhau holl ganeuon poblogaidd ABBA, gan gynnwys Mamma Mia, Dancing Queen, SOS, Waterloo, Voulez-Vous, Fernando, When I Kissed the Teacher, The Winner Takes It All a llawer mwy.
Hefyd, i gyflwyno hwyl yr ŵyl yn ystod y penwythnos olaf cyn y Nadolig, byddwn ni'n ychwanegu ychydig o ffefrynnau tymhorol – felly gallwch ddisgwyl llawer o secwins a digonedd o ddisgleirdeb y Nadolig!
P'un a ydych chi'n cynllunio'r parti diwedd y flwyddyn perffaith i'r staff, yn chwilio am trît cynnar cyn y Nadolig, neu eich bod, yn syml, wrth eich bodd yn dawnsio ac yn cydganu, mae hon yn noson na fyddwch chi am ei cholli.
Dyma beth mae cynulleidfaoedd yn ei ddweud am Fabba Mania:
"Am noson. Dydw i ddim wedi gweld cynulleidfa theatr yn ymateb fel hynny erioed o'r blaen!"
"Y sioe broffesiynol orau i mi ei gweld erioed"
"Noson anhygoel - roeddwn i wrth fy modd"
"Sioe anhygoel! Fy merch oedd y gyntaf ar ei thraed yn dawnsio ac roedd gwên fawr lydan ar ei hwyneb!”
Hyd y noson: 2 awr 20 munud gan gynnwys egwyl
Tocynnau | £24.50
- 19 Rhag, 19:30 ARCHEBWCH NAWR
Info Cyflym
- Cwmni: Welsh Film Orchestra
- Categori: Music
- Theatr: Ffwrnes Llanelli
Info Cyflym
- Cwmni: Welsh Film Orchestra
- Categori: Music
- Theatr: Ffwrnes Llanelli