Jimmy Nail - Stories and Songs
Mae'r actor, y canwr, y cerddor a'r awdur clodwiw - a hwnnw'n Geordie balch - Jimmy Nail yn mynd ar daith yn 2026 drwy gyflwyno Stories and Songs, cyfres o sioeau sy'n bwrw golwg yn ôl ar yrfa saith degawd anhygoel.
O'r gyfres deledu nodedig Auf Wiedersehen, Pet to Spender ac yna Crocodile Shoes - a arweiniodd at albymau lu a senglau a gyrhaeddodd frig y siartiau - mae Jimmy Nail wedi gadael ôl anferth ar ddiwylliant poblogaidd Prydain. Yn ystod ei yrfa, llwyddodd i gael recordiau poblogaidd, bod mewn cyfresi teledu, chwarae rhan mewn rolau ffilm mawr gan gynnwys yn Evita a Still Crazy, a chynnal perfformiadau blaenllaw ar lwyfan Broadway a'r West End yn Llundain.
Yn dilyn sioeau a werthodd bob tocyn yn Newcastle, yn dathlu caneuon Crocodile Shoes, mae Jimmy bellach yn dod â rhywbeth mwy personol i gynulleidfaoedd.
Mae Stories and Songs yn noson ffraeth a dadlennol sy'n cyfuno cerddoriaeth, atgofion a lluniau na welwyd o'r blaen. Gall cynulleidfaoedd ddisgwyl hanesion gonest, eiliadau o fyfyrio, a detholiad o ganeuon o bob rhan o'i yrfa ryfeddol.
A chyda amrywiaeth mor gyfoethog, ni fydd unrhyw ddwy noson yr un fath.
O rif un y DU yn 1992 gyda "Ain't No Doubt", i "Love Don't Live Here Anymore", "Crocodile Shoes", "Cowboy Dreams", "Big River", a cherddoriaeth o ffilm a llwyfan, mae llwyth o ddewisiadau i gael, ac mae'r straeon y tu ôl iddyn nhw yr un mor wych.
Yn ymuno â Jimmy ar y llwyfan fydd ei gydweithiwr hirdymor Tony Davis, a fydd yn chwarae'r allweddellau a'r acordion, gan ychwanegu gwead ac awyrgylch i'r perfformiadau agos hyn.
Nid cyngerdd yn unig yw An Evening of Stories and Songs, mae'n daith - trwy gerddoriaeth, cof, a bywyd ar y llwyfan ac ar sgrin.
Tocynnau Cwrdd a Chyfarch
Bydd y sesiwn Cwrdd a Chyfarch yn cael ei chynnal am 5.45pm yn yr awditoriwm (cyrhaeddwch o 5.30pm ymlaen), ac mae'n cynnwys cwrdd â Jimmy, tynnu llun gyda'ch camera/ffôn eich hun a chael dwy eitem wedi'u llofnodi gan Jimmy.
Tocynnau | Safonol £38, Cwrdd a Chyfarch £85.50
- 24 Gorff, 19:30 ARCHEBWCH NAWR
Info Cyflym
- Cwmni: Tony Denton Promotions
- Categori: Music
- Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen
Info Cyflym
- Cwmni: Tony Denton Promotions
- Categori: Music
- Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen