The Forbidden Realm Of Conspiracies: Uncovered

BETH OS MAI CELWYDD YW'R CYFAN?

Mae The Forbidden Realm of Conspiracies: Uncovered yn brofiad theatr rhyngweithiol, beiddgar sy'n eich tynnu'n ddwfn i fyd damcaniaethau cynllwynio, naratifau cudd, a chwestiynau gwaharddedig a hynny drwy ddelweddau sinematig, sain bwerus, ac eiliadau cynulleidfa fyw.

Nid darlith yw hon. Ac nid y bwriad yw dweud wrthych chi beth i'w gredu. Mae'n brofiad sydd wedi'i gynllunio i aflonyddu sicrwydd, herio canfyddiad, a gwneud i chi gwestiynu pa mor hawdd y mae cred yn cael ei siapio.

Archwiliwch rai o'r syniadau sy'n cael y sylw mwyaf yn ein hoes - o naratifau'r cyfryngau a strwythurau pŵer i ddadleuon cof, canfyddiad, a chyfnod y pandemig. Dyma'r pynciau sy'n dominyddu TikTok, podlediadau, a thrafodaeth ar-lein ledled y byd - sydd bellach wedi'u trawsnewid yn ddigwyddiad byw gafaelgar.

Ond... MAE ELFEN O RISG YN PERTHYN IDDO. Dyma'r mathau o syniadau y mae pobl yn eu hosgoi mewn sgwrs gwrtais. Y mathau o gwestiynau sy'n gwneud i ystafelloedd fynd yn dawel. Ond yma, maen nhw'n cael sylw agored - nid i roi atebion i chi, ond i adael i chi brofi'r anghysur, yr amheuaeth, a'r ansicrwydd drosoch chi'ch hun.

Trwy ddelweddau trawiadol, sain i ymgolli ynddi, a siwrnai atmosfferig llawn tensiwn, byddwch chi'n cael eich tynnu i mewn i brofiad sy'n teimlo'n agos, yn annifyr, ac yn amhosibl ei anwybyddu. Mae llawer o aelodau'r gynulleidfa yn disgrifio gadael yn dawel... yn dal i feddwl.

Hyn a hyn o docynnau sydd ar gael. Ac maen nhw'n gwerthu'n gyflym. Nid yw hon yn sioe y bydd pawb yn gyfforddus â hi - a dyna'n union y pwynt.

Yn newydd sbon ar gyfer 2026.

Camwch i mewn. A phenderfynwch drosoch eich hun.


Tocynnau: £24.50

Info Cyflym

  • Cwmni: C A J Productions Ltd
  • Categori: General Entertainment
  • Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen

Info Cyflym

  • Cwmni: C A J Productions Ltd
  • Categori: General Entertainment
  • Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen