The Sound of Music

Rydyn ni'n falch iawn o gyhoeddi bod Opera Ieuenctid Caerfyrddin a'r Cylch yn dod â'r clasur oesol The Sound of Music i Theatr y Lyric ym mis Chwefror 2026!

Pan fydd merch ifanc o'r enw Maria yn cael trafferth ymaddasu i fywyd lleiandy yn Awstria yn y 1930au, mae'n cael ei hanfon gan y Fam Abades i wasanaethu fel Athrawes Gartref i saith o blant Swyddog y Llynges sy'n ŵr gweddw, sef Capten Georg von Trapp. Mae ei chariad at gerddoriaeth a'i charisma yn bywiogi'r cartref llym, ac mae'r plant yn dod i ddwlu arni. Mae Capten von Trapp yn teimlo'n wahanol ar y dechrau, ond yn fuan mae Maria yn cipio ei galon hefyd. Mae Maria yn sylweddoli efallai nad bywyd lleiandy yw'r llwybr iddi hi, ac mae hi a Georg yn cwympo mewn cariad ac yn priodi.

Ar ôl eu mis mêl, maen nhw'n dychwelyd adref i ddarganfod bod eu hannwyl Awstria wedi'i hatodi at yr Almaen ac mae Capten von Trapp yn cael gorchymyn yn syth i wasanaethu yn y Llynges. Gan wrthod ildio, mae'r teulu a'u ffrindiau agosaf yn creu cynllun iddyn nhw ddianc i ddiogelwch trwy'r mynyddoedd ac i'r Swistir.

Paratowch i gael eich swyno gan stori fythgofiadwy Maria a theulu von Trapp, sy'n cynnwys caneuon poblogaidd fel Do-Re-Mi, My Favorite Things, Edelweiss a Climb Ev'ry Mountain. Gyda setiau trawiadol, perfformiadau pwerus, a thalent anhygoel y cast ifanc, mae hon yn sioe na fyddwch am ei cholli!

Tocynnau | £20 & £15

Castio Dwbl
Mae rhai rhannau yn y cynhyrchiad hwn wedi'u castio'n ddwbl. Cyfeiriwch at yr amserlen isod i weld pa dîm sy’n perfformio ar bob dyddiad:

  • Nos Fercher 18 Chwefror, 7:30pm – Tîm Edelweiss
  • Dydd Iau 19 Chwefror, 2:30pm – Tîm Do Re Mi
  • Nos Iau 19 Chwefror, 7:30pm – Tîm Edelweiss
  • Nos Wener 20 Chwefror, 7:30pm – Tîm Do Re Mi
  • Dydd Sadwrn 21 Chwefror, 2:30pm – Tîm Edelweiss
  • Nos Sadwrn 21 Chwefror, 7:30pm – Tîm Do Re Mi

Info Cyflym

  • Cwmni: Carmarthen Youth Opera
  • Categori: Musical Theatre
  • Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen

Info Cyflym

  • Cwmni: Carmarthen Youth Opera
  • Categori: Musical Theatre
  • Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen