Hynt
Mae celf a diwylliant i bawb. Ond os oes gennych nam neu ofyniad mynediad penodol, yn aml, gall mwynhau ymweliad i theatr neu ganolfan gelf fod yn fwy cymhleth na dim ond archebu tocynnau a dewis beth i’w wisgo. Mae Hynt yn gynllun cenedlaethol sy’n gweithio gyda theatrau a chanolfannau celf ar draws Cymru i wneud pethau’n glir ac yn gyson. Mae hefyd yn adnodd i unrhyw un sydd angen gwybodaeth benodol am fynediad i gynllunio ymweliad â theatr. Rydym yn rhan o’r cynllun Hynt am ein bod yn credu ei fod yn cynnig yr arfer gorau oll i’n cwsmeriaid o ran polisi tocynnau a mynediad teg.
Cerdyn Aelodaeth yw Hynt - Mae gan rai â cherdyn Hynt hawl i gael tocyn yn rhad am ddim i gynorthwyydd personol neu ofalydd ym mhob theatr a chanolfan gelf sy’n rhan o’r cynllun. Cliciwch yma i gael gwybod os gallwch chi neu’r person rydych yn gofalu amdano/i gael cerdyn neu cliciwch yma i wneud cais
Archebu Tocyn Hynt - Gellir archebu tocynnau Hynt drwy ein swyddfa docynnau. Oriau agor y swyddfa docynnau yw dydd Mawrth – dydd Gwener 10am – 3pm a 10am – 2pm ar ddydd Sadwrn. Y tu allan i'r oriau hyn, gellir cysylltu â'r swyddfa docynnau drwy e-bost: sirgar.gov.uk. Rhowch rif eich cerdyn Hynt wrth wneud eich archeb. Gall fod cyfyngedig ar gael ar gyfer rhai perfformiadau, felly rydym yn argymell archebu'n gynnar. Rhaid i ddeiliad y cerdyn Hynt gasglu tocynnau Hynt yn bersonol ar ddiwrnod / noson y perfformiad.
Adnodd yw Hynt - www.hynt.co.uk yn cynnwys gwybodaeth a arweiniad defnyddiol am y cynllun a sut mae’n gweithio. Mae hefyd yn adnodd i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwybodaeth neu newyddion am fynediad a’r celfyddydau. Mae’r wefan yn cynnwys listings o bob perfformiad hygyrch yn ogystal â’r wybodaeth ddiweddaraf am leoliadau i’ch helpu i gynllunio eich ymweliad. Byddwn yn hapus i esbonio’r cynllun yn llawn a’n rhan ni ynddo. Os hoffech siarad ag aelod o staff, cysylltwch â Swyddfa Docynnau ar 0345 2263510.