Golygfeydd O’r Pla Du

Ar daith Mai 2023

Tocynnau ar werth nawr!

*Perfformiadau dehongli BSL

Cyhoeddiad Cast

Dewch ynghyd! Mae Theatrau Sir Gâr yn cyhoeddi ei gynhyrchiad ei hun ar gyfer gwanwyn 2023.

Mae Theatrau Sir Gâr yn bwrw iddi i gynhyrchu ei gynhyrchiad mewnol llawn cyntaf a fydd yn teithio i leoliadau ledled Cymru yn ystod gwanwyn 2023. Disgrifir 'Golygfeydd o'r Pla Du', sydd wedi'i osod adeg y pla, fel comedi ddrygionus, ddu, sy’n llawn sgandal, caneuon, geifr sy'n canu a thail ceffylau; mae'r gomedi grêt hon yn gyfuniad o Monty Python a Blackadder, sy'n gwneud hwyl am ben y rhai sy'n ceisio elwa ar argyfwng. Rydym yn eich croesawu i'r Pla Du: does dim byd mwy doniol!

Ysgrifennwyd a chyfarwyddwyd y gomedi Gymraeg hon gan Chris Harris, sy'n ddramodydd ac yn gyfieithydd o Gwmbrân, sy'n byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Enillodd Chris Wobr Richard Carne am Ysgrifennu Dramâu yn 2011 a grant gan The Peggy Ramsay Foundation. Yn ogystal â'r Pla Du, mae Chris wrthi'n datblygu gwaith newydd ar hyn o bryd gyda sawl cwmni arall gan gynnwys Theatr Bara Caws, Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen a Sefydliad y Glowyr Coed Duon.

Mae 'Golygfeydd o'r Pla Du' wedi cael arian gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac yn cael cefnogaeth gan Theatr Genedlaethol Cymru. Bydd y ddrama'n agor yn Theatr y Ffwrnes, Llanelli ar 4 Mai cyn teithio o amgylch lleoliadau ledled Cymru. Bydd y daith yn dod i ben yn un o leoliadau eraill Theatrau Sir Gâr, sef Theatr y Lyric yng Nghaerfyrddin ar 26 Fai.

Dywedodd Chris Harris: “Rwy'n llawn cyffro ynghylch cyflwyno comedi dywyll â man gwan cynnil wedi'i wreiddio yn ein hymddygiad sydd wedi newid yn ystod y pandemig. Ond rhaid peidio â cholli'r ddadl allweddol - sef pan fo argyfwng yn digwydd, mae unigolion sy'n elwa ar anffawd eraill. Bydd y ddrama'n siarad â chynulleidfaoedd – yn ffiguraidd ac yn llythrennol! Byddwn yn rhoi profiad aruthrol i'r gynulleidfa - un sy'n mynd â nhw i fyd cwbl wahanol er mwyn adlewyrchu - yn ogystal â chwerthin - ar ein pennau ein hunain a'n hymddygiad sydd wedi newid dros y ddwy flynedd ddiwethaf.”

Dywedodd Sharon Casey, Rheolwr Theatrau ar gyfer Theatrau Sir Gâr: “Rydym yn falch iawn mai 'Golygfeydd o'r Pla Du' fydd cynhyrchiad cyntaf erioed Theatrau Sir Gâr. Eleni rydym yn nodi 10 mlynedd ers sefydlu Theatr y Ffwrnes, felly mae'n arbennig o gyffrous bod y cynhyrchiad newydd hwn yn dechrau yn y Ffwrnes. Mae'r cynhyrchiad wedi cael ei ddatblygu dros y ddwy flynedd ddiwethaf, sydd wedi bod yn heriol ar brydiau oherwydd y pandemig, ond mae'r tîm creadigol wedi tynnu at ei gilydd ac wedi llwyddo i greu rhywbeth arbennig iawn. Allwn ni ddim aros i rannu hyn â chynulleidfaoedd ledled Cymru.”

Mae'r tîm creadigol yn cynnwys Luned Gwawr Evans sy'n gyfrifol am y gwaith dylunio ac sydd wedi gweithio'n helaeth ym maes dylunio theatr a dylunio teledu a ffilm ers graddio o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd. Mae ei gwaith theatr diweddaraf yn cynnwys Llygoden yr Eira (Theatr Genedlaethol Cymru/Theatr Iolo; The Famous Five (Theatr Chichester a Chlwyd), Yr Arandora Star, ac Y Naid (Theatr na nÓg).

Lynwen Haf Roberts, y gyfansoddwraig a'r cyfarwyddwr cerdd o'r Wyddgrug, sy'n creu'r gerddoriaeth ar gyfer y ddrama. Mae gwaith cyfansoddi Lynwen yn cynnwys Celebrated Virgins (Theatr Clwyd), Santa's Caravan (sengl elusen Nadolig ar gyfer North Wales Superkids) a Rhyfeloedd y 'Rona/The Corona Wars (Leeway Academy/Leeway Productions).

Hefyd yn rhan o'r tîm creadigol y mae Ffion Glyn a Sharon Casey, sef cynhyrchwyr y ddrama, sydd wedi bod yn rhan o'r prosiect gydol y cyfnod datblygu dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Cynhyrchiad Cymraeg yw 'Golygfeydd o'r Pla Du', sy'n addas i blant dros 14 oed (mae'n cynnwys iaith gref, themâu ynghylch marwolaeth, salwch, sefyllfaoedd gwaedlyd, hiwmor sarcastig a phypedau fflwfflyd iawn). Bydd Sibrwd, ap mynediad iaith Theatr Genedlaethol Cymru, ar gael ym mhob perfformiad, sy'n golygu y gall cynulleidfaoedd fwynhau'r perfformiad hwn waeth beth yw lefel eu Cymraeg.