Cyhoeddiad Cast | Golygfeydd o'r Pla Du - ar daith

Dychwelyd

Datganiad i’r wasg: 23.03.23

Theatrau Sir Gâr yn cyhoeddi cast Golygfeydd o’r Pla Du!

Bydd cynhyrchiad cyntaf erioed Theatrau Sir Gâr ar gart sigledig o amgylch Cymru rhwng y 5ed – 26ain o Fai. Mae Golygfeydd o’r Pla Du gan Chris Harris wedi ei leoli yn y pentref anghofiedig a digyfraith, Pentreufargirec ym 1348. Yn gomedi tywyll a direidus am argyfwng a llygredd, mae’n addo i fod yn wahanol i un rhywbeth byddwch chi wedi ei weld (neu arogleuo) cyn hyn!

Heddiw, mae Theatrau Sir Gâr yn gyffrous iawn i gyhoeddi’r cast dewr a drygionus sy’n camu mewn i esgidiau blêr y cymeriadau;

Berwyn Pearce, yn wreiddiol o Bontypridd, sy’n adnabyddus am ei rôl yn Woof, Sherman Cymru ac mewn cyfresi teledu fel Pobl y Cwm, fydd yn chwarae rhan Twm - con-artist cyfrwys canol oesol. Gynulleidfa! Cadwch lygad barcud ar hwn!

Mae’r actores Alis Wyn Davies yn gyffrous am y cyfle i ddod adref i Sir Gâr am gyfnod a gadael strydoedd Llundain. Ar ôl ymddangos yn ddiweddar ochr yn ochr â Syr Ian McKellen yng nghynhyrchiad The Theatre Royal Windsor o Hamlet, bydd Alis yn gadael y glitz a’r glamour ac yn camu mewn i esgidiau cachlyd Mari Anni, gwerthwr tail chwyldroadol sy’n breuddwydio am ryddid!

Iwan Charles, yn wreiddiol o Ddyffryn Clwyd ond bellach wedi ei leoli yng Ngwynedd, wyneb cyfarwydd mewn dramâu fel Dawel Nos gan Bara Caws a dramâu teledu fel Y Goleudy ar S4C fydd yn chwarae cymeriad mwyaf diawledig y sioe hon - y Casglwr Trethi amhoblogaidd! Mae pawb yn ei gasáu, ond mae’n dyheu am ddod o hyd i gariad!

Ffani Anni yw’r cymeriad olaf, enaid rhamantus tu hwnt ond sy’n andros, andros o sal, ac yn hiraethu am ei chariad colledig. Anni Dafydd o Geredigion, fu’n rhan o’r cynhyrchiad diweddar Clera gydag Arad Goch, fydd yn chwarae’r cymeriad anobeithiol hon.

Dewch yn llu gyfeillion i fwynhau’r cymeriadau ecsentrig, yr hiwmor sarcastig, pypedau fflwfflyd a geifr sy’n canu!

Oherwydd natur y sioe, mae'n cael ei argymell ar gyfer y rhai 14+ oed. Mae hi yn addas i ddysgwyr. Bydd Sibrwd, ap mynediad iaith Theatr Genedlaethol Cymru ar gael ym mhob perfformiad i’w gwneud yn hygyrch i ddysgwyr. Bydd tri pherfformiad BSL arbennig gan Cathryn Mc Shane– Kouyatè yn ystod y daith ar y 5ed o Fai yn y Ffwrnes, Llanelli, yn Sefydliad y Glowyr Coed Duon ar 18fed Mai, ac yn Pontio ar Fai 23ain.

Am restr llawn o’r daith genedlaethol, ewch i https://www.theatrausirgar.co.uk/cy/golygfeydd-or-pla-du-ar-daith

Am fanylion pellach neu am gyfweliadau gyda’r cast cysylltwch ag Ymgynghorydd Marchnata Theatrau Sir Gâr, Heulwen Davies o Llais Cymru; heulwen@llaiscymru.wales neu Kate Boucher; klboucher@carmarthenshire.gov.uk

Archebwch nawr

  • 10 Mai, Theatr Borough, Y Fenni - Archebwch nawr
  • 11 Mai, Y Parc A’r Dâr, Treorci - Archebwch nawr
  • 12 Mai, Pafiliwn y Grand, Porthcawl - Archebwch nawr
  • 16 Mai, Theatr Brycheiniog, Aberhonddu - Archebwch nawr
  • 17 Mai, Canolfan Celfyddydau Pontardawe - Archebwch nawr
  • 18 Mai, Sefydliad y Glowyr Coed Duon - Archebwch nawr
  • 19 Mai, Barry Memo, Y Barri - Archebwch nawr
  • 23 Mai, Pontio, Bangor - Archebwch nawr
  • 24 Mai, Neuadd Dwyfor, Pwllheli - Archebwch nawr
  • 25 Mai, Theatr Mwldan, Aberteifi - Archebwch nawr
  • 26 Mai, Lyric, Caerfyrddin - Archebwch nawr
  • Berwyn Pearce
    Berwyn Pearce
    Alis Wyn Davies
    Alis Wyn Davies
    Iwan Charles
    Iwan Charles
    Anni Dafydd
    Anni Dafydd