A Celebration of Father Ted with Joe Rooney
Ymunwch â ni i ddathlu un o'r rhaglenni comedi gorau erioed, wrth i ni groesawu Joe Rooney, y digrifwr llwyfan enwog, am noson o bopeth yn ymwneud â Father Ted!
Ymddangosodd Joe fel y lliwgar Father Damo yn y bennod enwog o Father Ted The Old Grey Whistle Theft, lle roedd yn arwain Dougal ar gyfeiliorn gyda'i glustdlysau, ei ysmygu a'i agwedd wrthryfelgar.
Bydd Joe yn cynnal dangosiad o'r bennod, yn mynd â chi tu ôl i'r llenni, ac yn ateb eich holl gwestiynau am Craggy Island – yna paratowch eich hun ar gyfer 'Lovely Girls Competition': ai gyda chi mae'r chwerthiniad hyfrydaf, y cerddediad gorau, ac ai chi sy'n gallu gwneud y frechdan fwyaf blasus?
Bydd cystadleuaeth dawnsio offeiriaid hefyd, ynghyd ag ymddangosiadau gan Ziggy Stardust, Nirvana, Johnny Cash a llawer mwy – ac ni fyddai'r noson yn gyflawn heb gyd-ganu 'My Lovely Horse’!
Dewch i gwrdd â Joe ac ymgolli yng ngwiriondeb Father Ted.
Ah, go on… you will!
Tocynnau | £20
Oed 18+
Amser rhedeg | 1 awr 55 mun cynnwys egwyl
- 18 Hyd, 19:30 ARCHEBWCH NAWR
Info Cyflym
- Cwmni: Simon Parrish Productions
- Categori: General Entertainment
- Theatr: Ffwrnes Llanelli
Info Cyflym
- Cwmni: Simon Parrish Productions
- Categori: General Entertainment
- Theatr: Ffwrnes Llanelli