A Night With The Stars
Cyngerdd Gala Noson gyda'r Sêr
Mae'r dathliad poblogaidd o dalentau cerddorol Cymru yn parhau.
Eleni, mae'r enwog Côr Meibion Pendyrus yn dychwelyd ar gyfer 'Noson gyda'r Sêr'. Mae poblogrwydd parhaol y Côr yn parhau i fod mor gryf ag erioed, gyda pherfformiadau yn rhai o leoliadau cyngerdd mwyaf mawreddog y DU.
Mae'r noson hefyd yn cynnwys unawdwyr dawnus a phoblogaidd LARS (Loud Applause Rising Stars), sef grŵp rhyfeddol o gantorion ifanc o bob rhan o Dde Cymru, rhwng 14 a 22 oed, y mae pob un ohonyn nhw’n ymroddedig i feithrin gyrfaoedd ym myd cerddoriaeth.
Gan ychwanegu at y cyfoeth o dalent ifanc, rydym yn edrych ymlaen at glywed sain hyfryd a dyrchafol Côr Ysgol Gymraeg Llangennech.
Jacob Morris, sy'n enedigol o Lanelli ac yn ddarlledwr a gohebydd gwleidyddol ar gyfer S4C fydd yn cyflwyno'r noson yn ei arddull unigryw a diddorol.
Mae'r gyngerdd gala hon, sy'n cael ei chynnal am y 13eg tro eleni, yn parhau i swyno cynulleidfaoedd gyda'r perfformiadau cerddorol amrywiol.
Tocynnau: £12 - £18
- 3 Hyd, 19:00 ARCHEBWCH NAWR
Info Cyflym
- Cwmni: Loud Applause Productions
- Categori: Music
- Theatr: Ffwrnes Llanelli
Info Cyflym
- Cwmni: Loud Applause Productions
- Categori: Music
- Theatr: Ffwrnes Llanelli