Beauty and the Beast - Lyric

Ymunwch â ni i weld hen, hen stori dwymgalon y Nadolig hwn lle mae cariad yn trechu popeth!

Pan gaiff tywysog ei felltithio i fyw ei fywyd fel bwystfil brawychus, ei unig obaith o ddianc rhag y dynged hon yw dod o hyd i'w wir gariad. Pan ddaw Beauty i'w fywyd, ai dyma'r cyfle y mae wedi bod yn aros amdano? A fydd Beauty yn ei weld fel mwy nag anghenfil? A all y bwystfil ddysgu sut i garu unwaith eto cyn i'r petal olaf ddisgyn o'r rhosyn hudol?

Gyda chymeriadau lliwgar, setiau ysblennydd a gwisgoedd anhygoel, mae Beauty and the Beast yn bantomeim cyffrous a llawn hwyl y bydd y teulu cyfan yn ei fwynhau.

Yn dilyn llwyddiant Jack and the Beanstalk, mae Theatrau Sir Gâr yn falch iawn o gael cefnogaeth gan Imagine Theatre unwaith eto eleni wrth iddynt gyflwyno Beauty and the Beast fel pantomeim Nadolig Theatr y Lyric ar gyfer 2024.

Sylwch y bydd goleuadau strôb, pyrotechneg a mwg theatrig yn cael eu defnyddio yn ystod y perfformiad hwn.

Arbedion Cynnig Cynnar

Archebwch erbyn Gorffennaf 31ain ac arbed £2 oddi ar bob tocyn! Mae'r gostyngiad yn awtomatig, nid oes angen cod.

Perfformiad BSL - Nos Sul 15 Rhagfyr 6yn

Perfformiad Ymlaciedig- Nos Wener 27 Rhagfyr 6yn

Tocynnau
Arbedwr: £13.50, £15.50 & £54
Safonol: £17, £19 & £68
Premiwm: £19, £22 & £76

Info Cyflym

  • Cwmni: Theatrau Sir Gâr
  • Categori: Christmas Show
  • Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen

Info Cyflym

  • Cwmni: Theatrau Sir Gâr
  • Categori: Christmas Show
  • Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen