Carmarthen Bay Film Festival’s Best of Short Films Made in Wales
Profwch ffilmiau byrion pwerus o Ŵyl Ffilmiau Bae Caerfyrddin 2025 sy'n cynnwys adrodd straeon beiddgar gyda chysylltiad â Chymru, o gomedi tywyll i ffuglen wyddonol ddystopaidd a rhaglen ddogfen sy'n ysgogi'r meddwl.
Gŵyl ffilmiau flynyddol sy'n cael ei chynnal yn Llanelli, gorllewin Cymru yw Gŵyl Ffilmiau Bae Caerfyrddin (CBFF), ac sy'n cael ei dangos ar-lein. Dros gyfnod o 4 diwrnod ym mis Mai, rydym yn dangos tua 170 o ffilmiau annibynnol o Gymru a phedwar ban byd, yn cynnal digwyddiadau arbennig a sgyrsiau a phanelau sy'n benodol i'r diwydiant, gan orffen drwy noson wobrwyo gala carped coch. Mae CBFF yn BAFTA British Short Film Competition Qualifying Festival sy'n hynod lwyddiannus ac yn cael ei chydnabod gan BAFTA Cymru a BAFTA Scotland.
Bydd y dangosiad am ddim hwn yn cynnwys rhai o'r goreuon o'r categori Ffilm Fer a Wnaed yng Nghymru o ŵyl 2025. Rhaid i'r hyn a gyflwynir yn y categori fod yn ffilm wreiddiol sydd ag amser rhedeg o 40 munud neu lai. Gellir cyflwyno unrhyw genre. Mae'n rhaid bod cysylltiad â Chymru gan y cynhyrchiad ffilm.
Knackered (Cyfarwyddwr: Django Pinter)
Mellowcroft (Cyfarwyddwr: Luke Kwame Dell)
Fail, Better (Cyfarwyddwr: Nick Swannell)
Decksdark (Cyfarwyddwr: Kane Wilson)
Mae tocynnau ar gyfer y dangosiad hwn yn rhad ac am ddim.
- 13 Hyd, 19:30 ARCHEBWCH NAWR
Info Cyflym
- Cwmni: Carmarthen Film Club / Clwb Ffilm Caerfyrddin
- Categori: Film
- Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen

Info Cyflym
- Cwmni: Carmarthen Film Club / Clwb Ffilm Caerfyrddin
- Categori: Film
- Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen
