Disney's Beauty and the Beast JR.

Yn seiliedig ar y cynhyrchiad gwreiddiol a oedd ar Broadway am dros dair blynedd ar ddeg, mae Beauty and the Beast JR. Disney yn addasiad gwych o'r stori am drawsnewid a goddefgarwch. Mae'r stori glasurol yn adrodd hanes Belle, merch ifanc mewn tref daleithiol, a'r Bwystfil, sydd mewn gwirionedd yn dywysog ifanc sy'n gaeth dan gyfaredd dewines. Os gall y Bwystfil ddysgu i garu a chael ei garu, bydd y felltith yn dod i ben a bydd yn cael ei drawsnewid i sut oedd e gynt. Ond mae amser yn brin. Os nad yw'r Bwystfil yn dysgu ei wers yn fuan, bydd ar ben arno ef a'i aelwyd.

Mae Beauty and the Beast JR. Disney yn cynnwys rhai o'r caneuon mwyaf poblogaidd a ysgrifennwyd erioed gan Alan Menken a'r diweddar Howard Ashman, ynghyd â chaneuon newydd gan Mr Menken a Tim Rice. 


Tocynnau | £15 & £10  

Info Cyflym

  • Cwmni: Stagecoach Performing Arts Carmarthen
  • Categori: Musical Theatre
  • Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen

Info Cyflym

  • Cwmni: Stagecoach Performing Arts Carmarthen
  • Categori: Musical Theatre
  • Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen