Grip of Life
Gan Noni Lewis
Beth mae bod yn fenyw ganol oed yn ei olygu?
Os oes unrhyw un wedi deall hyn, ydyn nhw'n gallu dweud wrth Eleanor a Sophie fel eu bod yn gallu mynd allan o'r ystafell fach ryfedd hon?
Ymunwch â'r actores enwocaf o Gymru nad ydych chi erioed wedi clywed amdani, a'r actores leiaf enwog o Gymru sy'n gweithio heddiw wrth iddyn nhw geisio deall yr ateb i'r cwestiwn hwnnw, a hynny â bron i 100 mlynedd o hanes yn eu gwahanu nhw.
Ysbrydolwyd drama newydd Noni Lewis gan fywyd yr actores lwyfan a ffilm Gymreig hynod o anadnabyddus, Eleanor Daniels o Lanelli. Er bod y ddwy fenyw yn dod o wahanol gyfnodau hanesyddol, mae Eleanor a Sophie yn rhannu straeon teimladwy a doniol am syndrom yr ymhonnwr, ofn a difaterwch canol oed, realiti emosiynol y perimenopos, effaith galar, euogrwydd, ailymgnawdoliad a chwestiwn mawr bywyd - ‘pam?’
Gyda chymorth Cyngor Celfyddydau Cymru a Theatrau Sîr Gâr. Cyd-gynhyrchiad gyda Riverfront Theatre, Casnewydd.
Cyfeiriadau at farwolaeth a galar.
Perfformiad 1:30pm: Gyda dehongliad BSL gan Julie Doyle.
Tocynnau £14.50 | £12.50
- 26 Medi, 13:30 ARCHEBWCH NAWR (BSL)
- 26 Medi, 19:30 ARCHEBWCH NAWR
Info Cyflym
- Cwmni: Noni Lewis
- Categori: Drama
- Theatr: Ffwrnes Llanelli - Stiwdio Stepni
Info Cyflym
- Cwmni: Noni Lewis
- Categori: Drama
- Theatr: Ffwrnes Llanelli - Stiwdio Stepni