Gweithdy Dawns Am Ddim | Free Dance Workshops

Penwythnos hwyliog o sesiynau am ddim, wedi’u hanelu at ddawnswyr ifanc rhwng 13-21 oed sydd â diddordeb mewn datblygu eu sgiliau technegol a chreadigol a chysylltu ag ymarferwyr profiadol sy’n gweithio gyda Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. 

Cymerwch ran mewn ystod o ddosbarthiadau a gweithdai coreograffig a chewch gwrdd â dawnswyr ifanc eraill yng Nghymru. 
Rydym yn croesawu dawnswyr o ystod eang o gefndiroedd, ac rydym yn eich annog i fod yn chi eich hun yn yr ystafell. Beth bynnag fo’ch profiad, bydd y gweithdai’n agored, yn hwyliog ac yn groesawgar. 

Dydd Gwen 31 Mai - Dydd Sul 2 Mehefin 10am – 4pm Ffwrnes Theatre, Llanelli, Park St, Llanelli, SA15 3YE 
Am Ddim 
Archebwch gyda CDCCymru ar eu wefan: Gweithdy am ddim: Gweithdy am ddim: Gogledd Cymru | National Dance Company Wales (ndcwales.co.uk)

Info Cyflym

  • Cwmni: National Dance Company Wales
  • Categori: Dance
  • Theatr: Ffwrnes Llanelli - Crochan

Info Cyflym

  • Cwmni: National Dance Company Wales
  • Categori: Dance
  • Theatr: Ffwrnes Llanelli - Crochan