Gŵyl Undod Hijinx | Hijinx Unity Festival

Gŵyl Undod Hijinx yw un o wyliau celfyddydau cynhwysol ac anabledd mwyaf Ewrop ac mae'n dychwelyd i Theatr y Ffwrnes, Llanelli yr haf hwn!

Bydd yr ŵyl unwaith eto yn cynnig diwrnod penigamp gyda theatr a chelfyddydau cynhwysol ac anabledd sydd ymhlith y gorau ledled y byd gan gynnwys: tanzbar_bremen o'r Almaen yn cyflwyno'r sioe stryd lawen a swynol, sef FöhnFrisuren; Dança Sem Fronteiras o Frasil gyda Fresta Poética sy'n hudolus ac yn llawn mynegiant; ac Enter The Robots gan Hijinx ei hun mewn cydweithrediad â tanzbar_bremen.

Bydd y rhaglen lawn a rhagor o wybodaeth am y perfformiadau a'r perfformwyr bydd ar gael yma yn fuan. Dilynwch @HijinxTheatre ar y cyfryngau cymdeithasol i gael y diweddariadau wrth iddynt ddigwydd.

Am ddim, dim rhaid i brynu tocyn. Trowch lan a mwynhewch!

Info Cyflym

  • Cwmni: Hijinx Theatre Company
  • Categori: Outdoor Arts
  • Theatr: Ffwrnes Llanelli

Info Cyflym

  • Cwmni: Hijinx Theatre Company
  • Categori: Outdoor Arts
  • Theatr: Ffwrnes Llanelli