Kiri Pritchard-McLean - Peacock
Mae Little Wander mewn cydweithrediad â PBJ Management yn cyflwyno:
Mae Kiri Pritchard-McLean, seren 8 out of 10 Cats Does Countdown, Have I Got News For You a QI wedi cael ychydig flynyddoedd prysur. Yn ogystal â chyflwyno Live at the Apollo, arwain y sioe banel Radio 4 Best Medicine a dechrau ysgol gomedi, mae hi wedi dod yn rhiant maeth.
Ddim yn gwybod hynny amdani? Wel, tan nawr dyw hi ddim wedi gallu siarad amdano ar y llwyfan, dyw hi ddim hyd yn oed wedi dweud wrth y plant yn ei gofal ei bod hi'n gomedïwr. O, ac mae hi'n defnyddio enw gwahanol - hi yw Bruce Wayne comedi ond heb y plastai.
Fodd bynnag, eleni newidiodd rhywbeth ac ar ôl cwpl o gigs anoddaf ei gyrfa mewn ystafelloedd cyfarfod ynghyd â gweithwyr cymdeithasol, mae sioe am ddod yn ofalwr maeth wedi'i chytuno! Felly, dewch i ymuno â "Louise" wrth iddi godi'r clawr ar weithwyr cymdeithasol, hyfforddiant cymorth cyntaf a beth i beidio â'i wneud pan fydd ficer yn chwilio amdanoch chi ar YouTube.
Ymunwch â chyd-greawdwr a chyd-gyflwynydd y podlediad cwlt poblogaidd All Killa No Filla am sioe lawen a dyrchafol gan ddigrifwraig sy’n adnabyddus am wneud, yng ngeiriau The Guardian, "powerhouse stand-up from the thorniest of subjects".
Perfformiad â Chapsiynau
- 4 Hyd, 19:30 ARCHEBWCH NAWR
Info Cyflym
- Cwmni: Little Wander
- Categori: General Entertainment
- Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen
Info Cyflym
- Cwmni: Little Wander
- Categori: General Entertainment
- Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen