Mugenkyo Taiko Drummers: In Time
30th Anniversary Tour
Ymunwch â dathliad pen-blwydd nodedig Mugenkyo yn 30 oed, gyda sioe arbennig iawn o guriadau mawr, gwledd i’r llygad ac egni hanfodol.
Gan fynd â'r gynulleidfa ar daith 'mewn amser' - taith wefreiddiol drwy eu 30 mlynedd - mae'r cyngerdd yn brofiad theatrig llawn, gyda choreograffi deinamig a rhythmau yn cyferbynnu â seinluniau atmosfferig.
Fel y grŵp taiko hynaf yn Ewrop, mae Mugenkyo yn cael eu cydnabod yn eang fel arloeswyr y ffurf gelfyddydol gyffrous hon, gan gyffroi cynulleidfaoedd mewn miloedd o berfformiadau ledled y byd. Nawr maen nhw'n dychwelyd gyda'u taith fawr gyntaf yng ngwledydd Prydain ers bron i bum mlynedd.
Yn y cyfamser, mae Mugenkyo wedi bod yn brysur yn gweithio ar brosiectau cyffrous, gan gynnwys cydweithio ar brosiect uchelgeisiol 'World of Gods' gyda Cherddorfa Jazz Genedlaethol yr Alban, ffilmio ar gyfer y ffilm Hollywood, 'Tin Soldier' yng Ngwlad Groeg gyda Jamie Foxx a Robert DeNiro, a rhediad perfformio 26 dyddiad yn yr ‘Adelaide Fringe’.
Yn 2024 maent nôl ar yr hewl gyda pherfformiad trydanol a dyrchafol o sgiliau, stamina, ac enaid, dim ond mewn pryd ar gyfer y parti pen-blwydd arbennig hwn!
"This show is not one to be missed." - Edinburgh Evening News
"Lightning-fast synchronisation & complex rhythms on huge barrel-sized instruments. Hypnotic and primal, the show is an entrancing display of physicality, precision and discipline." - The List
"Unashamedly drumming as theatre, but also drumming as an almost religious experience…. exhilarating to behold.” - The Glasgow Herald
- 15 Hyd, 19:30 ARCHEBWCH NAWR
Info Cyflym
- Cwmni: MTD Productions Ltd
- Categori: Music
- Theatr: Ffwrnes Llanelli
Info Cyflym
- Cwmni: MTD Productions Ltd
- Categori: Music
- Theatr: Ffwrnes Llanelli