Noson yng Nghwmni Sue Roderick

Sioe fydd yn edrych nol dros fywyd a gyrfa’r actores o Borthmadog. Roedd yn canu ers yn ferch ifanc a bu'n perfformio gyda Treflyn Jones yn y ddeuawd 'Treflyn a Siwsan'. Perfformiodd ar Disc a Dawn (BBC Cymru) pan oedd yn ddeng mlwydd oed. Yn 14 oed aeth am glyweliad gyda Cwmni Theatr Cymru.

Roedd yn rhy ifanc i ddechrau gweithio ond cafodd gynnig gwersi canu gyda Betty Roberts, gwraig cyfarwyddwr y cwmni, Wilbert. Wedi gorffen yn yr ysgol aeth yn ôl i weithio gyda Cwmni Theatr Cymru. Yn 1987 perfformiodd ar y rhaglen Codi Pais (HTV) - rhaglen adloniant yn cynnwys sgetsus a chaneuon. Roedd y rhaglen yn torri tir newydd ar gyfer merched mewn comedi drwy gyfuno doniau Sue, Siw Hughes, Gillian Elisa ac Eirlys Parri.

Roedd yn un o brif actorion y ffilm Hedd Wyn gan fynd i’r Oscars a chwrdd a nifer o ser mawr Hollywood. Ymddangosodd yn Twin Town yn chwarae Lucy Cartwright. Yn y 1990au ymddangosodd yn y dramau Minafon,Y Palmant Aur, Yr Heliwr cyn ymuno â chast Pobol y Cwm i chwarae Cassie Morris, oedd yn berchen y Deri Arms gyda'i gŵr Teg. Wedi gadael yr opera sebon yn 2003, ail-ymunodd â Pobol y Cwm ar ddiwedd 2018 gyda stori am wasgaru llwch Mrs Mac.

Nid y Deri oedd yr unig dafarn ddychmygol iddi weithio ynddi gan iddi chwarae ran Megan Morgan – barmaid yn y Rovers Return (Coronation Street) gydag Alec Gilroy a Bet Lynch.

Yn ystod hanner cynta’r noson fe fydd Ieuan Rhys yn holi Sue am ei bywyd a’u gyrfa gan adael i’r gynulleidfa ei holi’n yr ail ran.

Pwy a wyr falle cawn ni ambell i gân gan Sue cyn ddiwedd y noson?

Noson bleserus gyda un o actorion prysura Cymru ers amser maith. Noson i’w chofio.

Tocynnau £16.50

Info Cyflym

  • Cwmni: Ad/Lib Cymru
  • Categori: General Entertainment
  • Theatr: Glowyr, Rhydaman | Ammanford

Info Cyflym

  • Cwmni: Ad/Lib Cymru
  • Categori: General Entertainment
  • Theatr: Glowyr, Rhydaman | Ammanford