Parti Priodas
gan Gruffudd Owen
Emynau, tensiynau, a dawnsio ar ben byrddau! Dyma’ch gwahoddiad i barti priodas Dafydd a Samantha…
Ond pwy arall sy’ ar y rhestr westeion? Mae Lowri yn benderfynol o oroesi diwrnod priodas ei brawd. Ond gyda hwnnw ar drothwy pennod newydd cyffrous yn ei fywyd, ydi dyfodol Lowri a’r fferm deuluol ar fin cael ei chwalu’n rhacs? Mae Idris yn hiraethu am ei hen ffrind gorau ac yn dychwelyd i Lŷn ar gyfer y diwrnod mawr. Ond a fydd cyfrinachau’r gorffennol yn difetha diwrnod pawb?
Yn dilyn llwyddiant ysgubol yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd y llynedd, ymunwch gyda ni am wledd o ddrama gomedi gan Gruffudd Owen wedi’i chyfarwyddo gan Steffan Donnelly, ac yn serennu Mared Llywelyn a Mark Henry Davies.
Bydd hwn yn barti i’w gofio!
Sioe Gymraeg
Sibrwd
Bydd Sibrwd – ap mynediad iaith Theatr Genedlaethol Cymru – ar gael i dywys y gynulleidfa trwy’r stori, pa mor rhugl bynnag ydynt yn Gymraeg. Mae’r ap yn darparu trawsgrifiad Saesneg byw o’r hyn sy’n cael ei ddweud ar y llwyfan, ac mae ar gael i’r gynulleidfa ei ddefnyddio gyda’u ffôn symudol eu hunain.
Darganfod mwy yma.
- 29 Ebr, 19:30 ARCHEBWCH NAWR
Info Cyflym
- Cwmni: Theatr Genedlaethol Cymru
- Categori: Drama
- Theatr: Ffwrnes Llanelli
Info Cyflym
- Cwmni: Theatr Genedlaethol Cymru
- Categori: Drama
- Theatr: Ffwrnes Llanelli