Ring Round The Moon
Derbyn gwahoddiad GRŴP THEATR PHOENIX LLANELLI i Ddawns mewn Chateau Ffrengig rhamantus.
Mae "Charade with Music" gan Christopher Fry a Jean Anouilh yn canolbwyntio ar ddau frawd cyfoethog sy'n cystadlu i ennill calon yr un fenyw ifanc hardd, i gyd o dan lygad barcud eu hen fodryb ddoeth.
Mae RING ROUND THE MOON yn gymysgedd egnïol o gomedi, drama a rhamant, noson o gamgymryd pobl am eraill a charwriaethau annoeth sy'n llawn swyn a ffraethineb: dihangfa ysblennydd lle mae straeon tylwyth teg yn dod yn wir.
O dan gyfaredd y lloer a disgleirdeb y sêr, cymerwch eich sedd ar garwsél serch a dihangwch i fyd hudolus yn y gomedi ysgafn bleserus hon.
Byddwch yn barod am noson o ddawnsio GRŴP THEATR PHOENIX yn RING ROUND THE MOON.
- 15 Mai, 19:30 ARCHEBWCH NAWR
- 16 Mai, 19:30 ARCHEBWCH NAWR
- 17 Mai, 19:30 ARCHEBWCH NAWR
- 18 Mai, 15:00 ARCHEBWCH NAWR
- 18 Mai, 19:30 ARCHEBWCH NAWR
Info Cyflym
- Cwmni: PHOENIX THEATRE GROUP
- Categori: Drama
- Theatr: Ffwrnes Llanelli - Stiwdio Stepni
Info Cyflym
- Cwmni: PHOENIX THEATRE GROUP
- Categori: Drama
- Theatr: Ffwrnes Llanelli - Stiwdio Stepni