Rock of Ages Youth Edition
Wedi’i lleoli yn
LA yn 1987, mae Rock of Ages yn adrodd hanes Drew, bachgen o’r ddinas o
Dde Detroit, a Sherrie, merch o'r dref, sydd ill dau wedi teithio i LA i
wireddu eu breuddwydion cyn syrthio mewn cariad. Mae’r stori garu glasurol hon
yn seiliedig ar helyntion y Dupree Room, “legendary temple of rock
'n' roll excellence” sydd dan fygythiad gan ddatblygwyr o gael ei dynnu i
lawr a chodi lle stripio yn ei le. Mae'r bygythiad o gau'r Dupree
Room yn dod â’r rociwr chwedlonol, Stacee Jaxx i’r dref, sy'n gyfle i Drew
wireddu ei freuddwyd i berfformio gyda’r goreuon.
Mae'r helynt yn codi wrth i Drew gefnu ar Sherrie i wireddu ei freuddwyd o ddod yn berfformiwr enwog, mae Stacee yn denu Sherrie i ffwrdd, ac mae'r Dupree Room yn cael ei ildio i ddatblygwyr. A all Drew a Sherrie achub eu cariad? Ac a ellir achub y Dupree Room cyn ei bod hi'n rhy hwyr?
Mae’r addasiad hwn o sioe gerdd rocaidd Broadway yn cynnwys trac sain roc o’r 80au a fydd yn gwneud i chi ddawnsio yn eich seddi, gan gynnwys caneuon yr 80au, ‘The Final Countdown’, ‘Don’t Stop Believin’ a ‘We Built this City'.
- 2 Gorff, 13:00 ARCHEBWCH NAWR
- 2 Gorff, 18:30 ARCHEBWCH NAWR
Info Cyflym
- Cwmni: Coedcae Comprehensive School
- Categori: Musical Theatre
- Theatr: Ffwrnes Llanelli
Info Cyflym
- Cwmni: Coedcae Comprehensive School
- Categori: Musical Theatre
- Theatr: Ffwrnes Llanelli