Stewart Copeland - Have I Said Too Much
The Police, Hollywood, And Other Adventures
Cafodd y seren roc Stewart Copeland lwyddiant ysgubol gyda'r ‘Police’; mae'n un o’r drymwyr gorau erioed, wedi ennill sawl gwobr Grammy, ac yn y Rock and Roll Hall of Fame. Ar ôl chwarae’r drymiau i ‘Curved Air’ yn 1975 ac 1976, aeth ymlaen i ennill enwogrwydd byd-eang gyda’r Police rhwng 1977 ac 1986, cyn cyfansoddi traciau sain Hollywood, ysgrifennu llyfrau, ffurfio ‘supergroup’, gwneud ffilmiau, a chyfansoddi ar gyfer bale, opera a cherddoriaeth glasurol. Yn y noson hynod ddifyr hon yng nghwmni Stewart, bydd yn siarad am ei fywyd anhygoel fel perfformiwr, cerddor, diddanwr, ac awdur.
Bydd Stewart yn ymddangos mewn sgwrs gyda gwesteiwr ar y noson.
Mae nifer cyfyngedig o becynnau Cwrdd a Chyfarch VIP ar gael.
Tocynnau | Cwrdd a Chyfarch £90.50, Goodie Bag £50.50, Seddi Safonol £35.50
- 9 Tach, 19:30 ARCHEBWCH NAWR
Info Cyflym
- Cwmni: A Way with Media
- Categori: General Entertainment
- Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen
Info Cyflym
- Cwmni: A Way with Media
- Categori: General Entertainment
- Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen