The Curious Incident of the Dog in the Night-Time

Addasiad gan Simon Stevens. Yn seiliedig ar y nofel gan Mark Haddon.

Mae Cwmni Theatr Glo Coleg Sir Gâr yn cyflwyno cynhyrchiad amatur o The Curious Incident of the Dog in the Night-Time, sydd wedi’i addasu gan Simon Stevens ac sy'n seiliedig ar y nofel boblogaidd gan Mark Haddon.

Dyma stori Christopher, bachgen yn ei arddegau sy'n wych ond sy'n ei chael hi'n anodd yn gymdeithasol, ac sy'n ceisio datrys dirgelwch ynghylch ci cymydog sydd wedi'i lofruddio. Wrth i Christopher dreiddio i'r ymchwiliad, mae'n datgelu gwirioneddau am ei deulu ei hun ac yn cychwyn ar daith sy'n herio'i ganfyddiadau o'r byd o'i gwmpas. Mae'r ddrama'n cyfuno elfennau o ddirgelwch, drama, a themâu dod i oed, a hynny mewn modd meistrolgar, ac mae'r cyfan oll yn cael ei gyflwyno trwy bersbectif unigryw Christopher. Mae cynulleidfaoedd yn cael eu cymryd ar daith emosiynol wrth iddynt weld twf a gwytnwch Christopher wrth iddo wynebu rhwystrau aruthrol. 


12+

Cynhyrchiad ieuenctid

Tocynnau | £12 & £8

Info Cyflym

  • Cwmni: Performing Arts at Coleg Sir Gâr
  • Categori: Drama
  • Theatr: Ffwrnes Llanelli

Info Cyflym

  • Cwmni: Performing Arts at Coleg Sir Gâr
  • Categori: Drama
  • Theatr: Ffwrnes Llanelli