The Little Mermaid

Yn dilyn llwyddiant Alice in Wonderland, mae Immersion Theatre, sydd wedi'u henwebu am sawl gwobr, yn eich gwahodd ar antur danddwr fywiog ac unigryw yn eu sioe gerdd deuluol fwyaf ysblennydd a rhyfeddol eto, sef The Little Mermaid

Mae'n llawn setiau trawiadol, cymeriadau diddorol, coreograffi syfrdanol, cerddoriaeth wreiddiol, a llwyth o gyfleoedd i'r gynulleidfa gymryd rhan. Mae'r addasiad newydd sbon hwn yn dilyn hynt a helynt Little Mermaid wrth iddi fynd ar antur fythgofiadwy, gan gynnig profiad hudolus a fydd yn swyno cynulleidfaoedd o bob oed wrth i ryfeddodau'r môr gyrraedd y llwyfan!

Bydd y teulu cyfan yn sicr o fwynhau'r sioe gerdd egnïol a gwefreiddiol hon. P'un a ydych chi'n 4 oed neu'n 104, mae gwledd o'ch blaenau, felly cimwch docyn!

Yn addas i blant dros 4+


Tocynnau | £14.50 & £12.50

Info Cyflym

  • Cwmni: Immersion Theatre
  • Categori: Family
  • Theatr: Ffwrnes Llanelli

Info Cyflym

  • Cwmni: Immersion Theatre
  • Categori: Family
  • Theatr: Ffwrnes Llanelli