The Misadventures of Pinocchio: The Radical Robot Girl!
‘Dynion barfog brwnt, mamau sy’n llofruddio, pypedau a phryfed tân a thylwyth teg...Ry’n ni wedi newid rhai enwau ond mae’r stori yr un fath, yn rybudd ar gyfer eich hoes...’
Mae Cwmni Theatr The Bohemians yn falch o gyflwyno ‘The Misadventures of Pinocchio: The Radical Robot Girl!’
Wedi’i gosod mewn Cymru ôl-apocalyptaidd, cawn gyfarfod merch robot radical o’r enw Pinocchio. Mae hi’n byw mewn byncer bach clyd gyda’i thad annwyl Joe. Mae popeth yn normal. Wel, mor normal ag y medrith pethau fod pan mae’r byd wedi dod i ben...Ond un diwrnod, mae Pinocchio yn darganfod rhywbeth fydd yn newid ei bywyd am byth...
Felly, ymunwch â Pinocchio ar ei chyrch peryglus i achub y blaned wrth i The Bohemians gyflwyno eu hathrylith hynod i theatrau ar draws De Cymru y gwanwyn hwn.
Wedi’i hysgrifennu gan Joel Nash a Benji Mowbray ac yn llawn dop o gerddoriaeth byw gwreiddiol, dyma stori dylwyth teg roc-werin ar gyfer yr oes fodern.
7+
Ymlaciedig
Mae ein holl berfformiadau yn rai Ymlaciedig ac os oes unrhyw anghenion ychwanegol gallwch ganfod rhagor o wybodaeth o fewn ein pecyn mynediad ac gwefan
BSL
Perfformiad BSL wedi’i ddehongli gan Cathryn McShane-Kouyaté
- 28 Mai, 18:00 ARCHEBWCH NAWR
- 29 Mai, 11:00 ARCHEBWCH NAWR
- 29 Mai, 15:00 ARCHEBWCH NAWR
- 30 Mai, 11:00 ARCHEBWCH NAWR
Info Cyflym
- Cwmni: The Bohemians Theatre Company
- Categori: Family
- Theatr: Ffwrnes Llanelli - Stiwdio Stepni
Info Cyflym
- Cwmni: The Bohemians Theatre Company
- Categori: Family
- Theatr: Ffwrnes Llanelli - Stiwdio Stepni