The Near Mrs

Mae Bill Thomas yn ddyn sydd wedi ymroi i'w deulu. Y broblem yw, mae ganddo ddau deulu!

Mae Bill rhywsut wedi llwyddo i sicrhau nad yw’r naill deulu na’r llall yn gwybod am ei gilydd, ond pan mae’n mynd ar wyliau gydag un teulu, mae tân yn nhŷ’r llall. Mae Bill yn dychwelyd adref i ddarganfod bod ei deulu arall wedi cael ei ailgartrefu….yn y tŷ drws nesaf!

Bellach mae’n rhaid i Bill gadw’r ddau gartref yn hapus ynghyd â'u cadw ar wahân, a hwythau ond ychydig droedfeddi wrth ei gilydd…Ar Ddydd San Ffolant, mae pethau’n mynd o ddrwg i waeth pan mae Bill yn darganfod bod y ddwy ddynes yn disgwyl pryd cartref rhamantus gydag ef, yn eu cartrefi eu hunain, ar yr un pryd!

Mae ACT yn dychwelyd gyda'u comedi premiere byd diweddaraf. Dyma ddrama ddoniol am ymdrechion chwerthinllyd un dyn i geisio cadw ei ddau gariad yn hapus! 


Tocynnau: £10 | £8

Info Cyflym

  • Cwmni: Ammanford Community Theatre (ACT)
  • Categori: General Entertainment
  • Theatr: The Miners' Ammanford

Info Cyflym

  • Cwmni: Ammanford Community Theatre (ACT)
  • Categori: General Entertainment
  • Theatr: The Miners' Ammanford