You’ve Got Dragons - English Show
“Mae dreigiau’n dod yn union pan nad wyt ti’n eu disgwyl. Rwyt ti’n troi rownd, a dyna nhw.”Mae llawer o bobl yn eu cael: breuddwydion cas, bola’n chwyrlio, teimlo’n bigog. A weithiau maen nhw’n gwneud iti deimlo’n unig. Beth all plentyn ifanc sy’n cael pwl cas o ddreigiau ei wneud felly?
Chwedl hyfryd am daith plentyn at ddygymod â’i ddreigiau, a adroddir yn null unigryw Taking Flight. Mae’r cynhyrchiad sensitif, gweledol wych hwn, gyda’i fiwsig byw gwreiddiol, yn archwilio mewn modd doniol a gwefreiddiol y dreigiau a wynebwn ni i gyd.
Sioe i bob cenhedlaeth, yn cynnwys capsiynau creadigol, BSL a disgrifiadau sain wedi’u cydblethu; mae You’ve Got Dragons yn brofiad braf i’r teulu i gyd. A chofiwch… “Nid oes draig yn y byd sy’n fwy grymus na TI!”
Tocynnau | Talu-beth-chi-eisiau: £1 | £3 | £5 | £8
- 13 Gorff, 13:30 ARCHEBWCH NAWR
Info Cyflym
- Cwmni: Taking Flight
- Categori: Family
- Theatr: Ffwrnes Llanelli - Stiwdio Stepni
Info Cyflym
- Cwmni: Taking Flight
- Categori: Family
- Theatr: Ffwrnes Llanelli - Stiwdio Stepni