Gŵyl Undod Hijinx | Hijinx Unity Festival 2026
****************Canslo*****************
Oherwydd y gwres eithafol, ac yn unol â chanllawiau Iechyd y Cyhoedd a'r undeb, mae Hijinx a Theatrau Sir Gâr wedi gwneud y penderfyniad anodd i ganslo rhaglen Gŵyl Undod yn Llanelli ddydd Iau, a hynny er mwyn diogelu'r perfformwyr, tîm yr ŵyl a'r cynulleidfaoedd.
Rydyn ni'n siomedig bod angen gwneud y penderfyniad hwn, ond diogelwch pawb sy'n cymryd rhan yw ein blaenoriaeth. Roedd yr ŵyl i fod i gael ei chynnal am 7 awr rhwng 12.30pm a 7.30pm, sy'n cwmpasu oriau poethaf y dydd, ac felly gallai fod wedi rhoi’r perfformwyr a'r gynulleidfa mewn perygl.
Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y mae hyn yn ei achosi ac rydyn ni'n gwerthfawrogi eich dealltwriaeth.
Gallwch dal weld Gŵyl Undod yn yr Wyddgrug ar 27 Mehefin ac yng Nghaerdydd rhwng 1 a 5 Gorffennaf.
Mae Gŵyl Undod Hijinx yn dychwelyd am y 12fed tro! Gŵyl gelfyddydau gynhwysol ac anabledd blaenllaw Cymru yw Gŵyl Unity. Bydd rhaglen arbennig o ddigwyddiadau theatr stryd am ddim yn dod i'r Ffwrnes ddydd Iau 25 Mehefin fel rhan o ŵyl 2026.
**************************************************
Yn cynnwys perfformiadau gan Hijinx, Theatr Iolo, Kitsch & Sync, Taking Flight a tanzbar_bremen; gallwch ddisgwyl criw afreolus o goblynnod yn Coblyn (Hijinx, Theatr Iolo, Kitsch & Sync), anhrefn llwyr yn The Audience (Hijinx West Academy) a deuawd ddawns hyfryd wedi'i hysbrydoli gan wyliau gan tanzbar_bremen o'r Almaen.
Bydd perfformiadau’n digwydd y tu allan i Theatr Ffwrnes Llanelli rhwng 12:30pm - 7.30pm. Mynediad am ddim!
Yn cynnwys:
Coblyn - Theatr Iolo, Hijinx and Kitsch & Sync
Imaginary Lines - Humans Move
Kitty O'Neil - Taking Flight
Twitch, Glitch and Flap - Taking Flight
R. Sieht Rot - tanzbar_bremen (o'r Almaen)
RO-TES រទេះ - Stopgap Dance Company (o Loegr)
The Audience - Hijinx
Crabulous! - Hijinx
Crabulous! - Hijinx
- 25 Meh, 12:30 ARCHEBWCH NAWR (CANSLO | CANCELLED)
Info Cyflym
- Cwmni: Hijinx Theatre Company
- Theatr: Ffwrnes Llanelli
Info Cyflym
- Cwmni: Hijinx Theatre Company
- Theatr: Ffwrnes Llanelli