Operation Julie
Mae Theatr na nÓg yn falch iawn i fod yn gweithio ar y cyd gyda Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth i gyflwyno un o’r straeon gwirioneddol anhygoel i ddod allan o Gymru erioed …
Mae ‘Breaking Bad’ yn gwrthdaro â ‘The Good Life’ mewn stori wir seicedelig o fryniau’r Gymru wledig.
Nid cyrch cyffuriau arferol oedd hyn. Pan ddisgynnodd aelodau o'r heddlu o bob rhan o’r wlad ar Dregaron cyn y wawr un bore ym 1977, ‘roedd rhai o'r swyddogion yn debycach i hipis a welwyd mewn gig Led Zep.
Ac ‘roedd y rhwydwaith LSD yr oeddent yn ei dargedu yn enfawr, ac yn anghonfensiynol. Ymysg ei brif aelodau oedd meddygon, gwyddonwyr a graddedigion prifysgol - wedi eu cymell, gan ddyhead efengylaidd i newid y byd.
Drama anarchaidd gyda cherddoriaeth o’r 70au sy’n adrodd y stori anhygoel am yr ymgyrch cuddiedig a chwalodd un o rwydweithiau cyffuriau mwyaf rhyfeddol a welodd y byd erioed.
Operation Julie - y stori sy a'i wreiddiau yng Nghymru wledig a siglodd y byd.
Dyma’r math o stori ‘rydych eisoes wedi clywed si amdani.
Dyma’r math o stori na fedrwch gredu ei bod wedi digwydd. Ond byddwch yn siarad efo pobl amdani a byddant yn cofio. Byddant yn ‘nabod pobl oedd yno ar y pryd.
Mae’n stori sydd wedi tyfu nes bod y llinell rhwng y gwirionedd a chwedl yn dechrau pylu. Stori a gydiodd yn nychymyg pobl leol a’r cyfryngau dros y byd i gyd.
Dewch i brofi stori Operation Julie.
- Canllaw oedran: 16+ neu 14+ gyda chaniatâd rhiant
- Cynhyrchiad Saesneg, gydag ychydig o Gymraeg
Info Cyflym
- Cwmni: Theatr na nÓg
- Categori: Musical Theatre
- Theatr: The Lyric Carmarthen

Info Cyflym
- Cwmni: Theatr na nÓg
- Categori: Musical Theatre
- Theatr: The Lyric Carmarthen
