Aros yn yr Ardal

Gallwch wneud y gorau o’ch amser hamdden pan byddwch yma gyda ni yn Y Ffwrnes, Llanelli

Mae yna lu o atyniadau i wneud eich ymweliad yn un arbennig o fewn munudau o’r theatr – sinema 6 sgrîn, siopau coffi, siopau adwerthu, parcio, nifer o fwytai a bariau newydd a hyd yn oed gwesty os hoffech aros yn hirach! Mae canol tref hanesyddol Llanelli ar ein stepen drws.  Unwaith yn enwog am ei diwydiant mae canol y dref nawr yn cynnwys marchnad dan do yn llawn cynnyrch a chymeriadau lleol.  Gallwch ymweld â "Llanelli House" fel a welwyd ar rhaglen "Restoration BBC" gyda Gruff Rhys Jones, y Llyfrgell sydd newydd gael ei adnewyddu, y brif ganolfan siopa a llu o fwytai ardderchog.

Llanelli yw cartref y Scarlets, ein tîm rygbi byd-enwog a Parc y Scarlets – stadiwm newydd £23m sy’n dal 15,000 wedi ei leoli ym Mharc Pemberton ar ymylon y dref. Mae hanes y Scarlets yn un llawn llwyddiant, balchder, ac angerdd ym myd chwaraeon gyda gwreiddiau rygbi cryf a rhai o’r cefnogwyr mwyaf angerddol yn y byd.

O fewn siwrnai fach o’r dref cewch ymweld a’r morlin hyfryd sy’n edrych dros Benrhyn Gwyr.  Yma cewch ymweld â’r Ganolfan Gwlypdiroedd Cendlaethol, cymysgedd o byllau ac afonydd o fewn 450 erwau sy’n llawn anifeiliaid a phlanhigion arbennig yn ogystal a dros 50,000 o adar gwyllt.

Mae Clwb Golff Machynys yn falch o’r cwrs cyntaf yng Nghymru i gael ei ddylunio gan Nicklaus, wedi ei leoli ar safle mynachdy o’r 6ed ganrif, sy’n rhoi ei enw i’r sba, Monks, sydd yn rhan o’r clwb.

Tipyn bach yn bellach o’r dref mae cwrs rasio newydd Ffos Las wedi dod a rasio ceffylau o’r radd uchaf yn ôl i Orllewin Cymru am y tro cyntaf ers 1937.  Mae’r lleoliad yn ardderchog gyda golygfeydd dros Gwm Gwendraeth i Fae Caerfyrddin.

Am rhywbeth llai egnïol, mwynhewch Lwybr Arfordirol y Mileniwm gyda’i olygfeydd prydferth ac awyr y môr, a gorffennwch yn y Sosban, Bwyty Y Flwyddyn, Cymru 2012-2013.

Pa beth bynnag byddwch eisiau, does dim yn rhy bell o’r Ffwrnes.  Am wybodaeth pellach am atyniadau a gwestai yr ardal, ymwelwch a gwefan Darganfod Sir Gaerfyrddin.