Sut i ddod o hyd i ni

Mae’r Ffwrnes yng nghanol tref Llanelli. Mae tri maes parcio Talu ac Arddangos o fewn cyrraedd ar droed o’r Ffwrnes, a gellir cerdded i brif orsaf fysiau Llanelli, a’r orsaf trên. Isod fe gewch wybodaeth ychwanegol am sut i ddod o hyd i’r Ffwrnes:

Ar y Ffordd:

Os ydych yn defnyddio SatNav defnyddiwch SA15 3YF i fynd a chi’n syth i faes parcio East Gate.

O’r dwyrain: O gyffordd 47 o’r M4 dilynnwch yr A484 tuag at canol tref Llanelli. Ar gylchfan Trostre cymerwch y 5ed allanfa ar yr A484. Ar y gylchfan nesaf cymerwch yr allanfa gyntaf a dilyn yr A484. Unwaith cyrhaeddwch y gylchfan nesaf bydd Travelodge o’ch blaen, cymerwch y 3ydd allanfa i faes parcio East Gate.

O Gaerfyrddin (Gorllewin): O Gaerfyrddin dilynwch yr A484 tuag at Llanelli. Unwaith cyrhaeddwch canol y dref ewch i’r chwith ar y goleuadau traffig ar Gelli-Onn (Yn syth ar ôl Eglwys Stryd y Neuadd) ac arhoswch yn y lôn ar y dde. Ar y goleuadau nesaf ar ben y bryn trowch i’r dde ar Thomas Street ac fe ddowch yn syth i gefn y Ffwrnes. Ar y gylchfan cymerwch y 4ydd allanfa i faes parcio East Gate

Defnyddwyr SatNav- defnyddiwch SA15 3YE 

Parcio:

Arhosiad Byr – Mae maes parcio arhosiad byr talu ac arddangos yn East Gate rhwng 8yb a 6yh o Ddydd Llun i Ddydd Sadwrn. Pris yw £2.00 am 4 awr. Mae parcio rhwng 6 yr hwyr a 8 y bore yn rhad ac am ddim.

Aros Hir – Mae dau faes parcio talu ac arddangos o fewn 500 medr i’r Ffwrnes:

Maes Parcio Edgar Street yn agos i feddygfa Old Road. Côd Post y maes parcio yma yw SA15 3HW.

Maes Parcio Street Car yn agos i feddygfa Vauxhall. (Mae cyfyngiad ar niferoedd aros yn hir) Côd Post y maes parcio yma yw SA15 3BD.

Am wybodaeth cyfoes am y meysydd parcio i gyd ymwelwch â tudalen barcio’r cyngor ar eu gwefan neu cliciwch yma.

Mewn Coets a Bws:

Mae Prif Orsaf bysiau Llanelli nesaf i’r Ffwrnes. Mae 'National Express' yn darparu gwasanaeth i fewn i Llanelli ac mae yna ddigon o wasanaethau lleol.

Am wybodaeth teithio cysylltwch â:

First Cymru Group: www.firstgroup.com neu galwch 01792 512255

Ar y trên:

Mae First Great Western a Threnau Arriva Cymru’n darparu gwasanaethau rheolaidd i Lanelli.

Am wybodaeth ynghylch trenau, cysylltwch â:

Ymholiadau Rheilffordd Cenedlaethol ar 03457 484950
www.gwr.com | www.networkrail.co.uk | www.arrivatrainswales.co.uk