Mynediad
Mae’r Ffwrnes yn ymroddedig i wneud eich ymweliad mor bleserus a phosibl, felly rhowch wybod i’r staff yn ein Swyddfa Docynnau o flaen llaw os oes gennych unrhyw anghenion arbennig.
Defnydd o Gadair Olwyn: Mae gan Y Ffwrnes safleoedd cadair olwyn yn y prif awditoriwm a Stiwdio Stepni.
Toiledau:Mae'r toiledau'n rhwydd i'w cyrraedd ac ar bob llawr.
Byddar a Thrwm eich Clyw: Mae system cymorth clywed isgoch wedi'i gosod yn y Ffwrnes.
Cŵn Tywys: Croeso cynnes i gŵn tywys ymhob awditoriwm. Rhowch wybod i’r Swyddfa Docynnau wrth archebu eich tocynnau ac fe ddown o hyd i sedd addas i chi.