Mynediad

Gwybodaeth am y Lleoliad

Theatr Art-Deco draddodiadol yw'r Lyric gyda 593 o seddi, sydd wedi'i lleoli yng nghanol Caerfyrddin.

Rydym wedi ymrwymo i wneud eich ymweliad mor gyfforddus a phleserus â phosibl, felly rhowch wybod i'n staff am eich gofynion ymlaen llaw.

Cyrraedd Yma

Mae'r Lyric ar Stryd y Brenin. Mae Stryd y Brenin yn system unffordd ac mae man gollwng yn union y tu allan i'r theatr.

Y maes parcio agosaf yw Maes Parcio Sant Pedr (SA31 1QP) sy'n faes parcio talu ac arddangos rhwng 8am a 6pm (am ddim ar ôl 6pm), ac mae oddeutu 4 munud i ffwrdd o'r Lyric ar droed.

Ar ôl 6pm, mae maes parcio'r cyngor yn 3 Heol Spilman (SA31 9SA) ar gael i'w ddefnyddio gan y cyhoedd a dyma'r maes parcio agosaf i'r theatr (3 munud ar droed).

Mae gorsaf fysiau Caerfyrddin wedi'i lleoli ar Heol Las sy'n agos i ganol y dref. Mae'r Lyric oddeutu 4 munud ar droed o'r fan hon.

Mae gorsaf drenau'r dref wedi'i lleoli ar Heol yr Orsaf (SA31 2BE) a thua 5 munud mewn car o'r Lyric, a thua 10 munud ar droed.

Mae gan yr adeilad dri phrif lawr. Mae mynediad gwastad o'r stryd i'r swyddfa docynnau ar y llawr gwaelod.

Archebu Tocynnau

Mae'r Swyddfa Docynnau ar agor rhwng 10am a 3pm o ddydd Mawrth i ddydd Sadwrn ar gyfer archebion wyneb yn wyneb neu dros y ffôn.

Os hoffech chi archebu lle ar gyfer cadair olwyn neu docyn Hynt, cysylltwch â'r swyddfa docynnau drwy ffonio 0345 226 3510, neu gallwch anfon e-bost atom y tu allan i oriau agor y swyddfa docynnau: theatrau@sirgar.gov.uk

Rhowch wybod i dîm ein swyddfa docynnau wrth archebu os bydd angen i chi fenthyg cadair olwyn pan fyddwch yn dod i'r theatr. (Gallwch hefyd ofyn i aelod o staff pan fyddwch yn cyrraedd, er nid ydym yn gallu rhoi sicrwydd y bydd un ar gael).

Hynt

Mae Theatr y Lyric yn aelod o Hynt.

Mae gan ddeiliaid cerdyn Hynt hawl i gael tocyn am ddim ar gyfer ei gynorthwyydd personol neu ei ofalwr wrth fynd i weld perfformiadau yn ein lleoliadau

Cliciwch yma i gael gwybod a ydych chi neu'r person rydych yn gofalu amdano yn gymwys i gael cerdyn neu cliciwch yma i wneud cais.

Perfformiadau Hygyrch

Cliciwch yma i bori drwy'r perfformiadau hygyrch sydd ar gael gennym

Mannau a Seddi Hygyrch

Rydym yn gwerthu llefydd i gadair olwyn yn y Swyddfa Docynnau wyneb yn wyneb neu dros y ffôn yn unig. Mae hyn oherwydd bod gwahanol lefydd yn addas ar gyfer gwahanol fathau o gadeiriau olwyn, ac rydym am sicrhau bod y gynulleidfa mewn man addas ar gyfer eu hanghenion. Wrth archebu eich tocyn, rhowch wybod i ni os oes angen lle ar gyfer cadair olwyn arnoch, gan fod angen tynnu seddi fel arfer cyn i chi gyrraedd.

Os ydych yn dymuno symud o'ch cadair olwyn i sedd theatr, mae hyn hefyd yn opsiwn cyn belled ag y byddech yn gallu gadael y theatr heb gymorth pe bai argyfwng. Bydd ein tîm Swyddfa Docynnau yn trafod eich gofynion gyda chi ac yn rhoi sedd i chi yn y man mwyaf priodol (os bydd llefydd ar gael).

Y Prif Dŷ

Mae seddi theatr y prif dŷ wedi'u rhannu ar draws tair lefel:

Mae'r seddi ar lawr gwastad a gellir cael mynediad iddynt o lefel y cyntedd. Mae llefydd ar gyfer hyd at 6 chadair olwyn ac mae'r rhain wedi'u lleoli ar ddiwedd y rhesi yn B2, E2, E20, J2, J20, a L2.

Mae'r mesanîn ar y llawr cyntaf a gellir cael mynediad i'r rhan hon drwy ddefnyddio'r grisiau neu'r lifft. Mae dwy res yn y mesanîn; Mae Rhes A ar lawr gwastad ac mae gan Row B un gris.

Mae'r cylch yn llawn haenau gwahanol a dim ond trwy ddefnyddio'r grisiau y gellir cael mynediad iddo.

Stiwdio

Mae stiwdio fach ar y llawr cyntaf a gellir cael mynediad iddi drwy ddefnyddio'r lifft neu'r grisiau.

Cyfleusterau'r lleoliad

Bar a Chiosg

Lleolir y Ciosg ar y llawr gwaelod, gyferbyn â'r swyddfa docynnau, ac fel arfer mae'n agor awr cyn y sioe am ddiodydd, byrbrydau, a lluniaeth.

Lleolir y Bar ar y llawr cyntaf ac mae'n agor awr cyn y sioe (ond fel arfer dim ond pan mae'r Cylch ar agor). Mae mynediad ar ffurf lifft a grisiau i'r Bar.

Toiledau

Mae toiledau hygyrch ar y llawr gwaelod, ac ar y llawr cyntaf ger Bar y Cylch a ger y Mesanîn (y tu allan i'r Stiwdio).

Dolen Sain

Mae system dolen sain isgoch ar gael drwy'r adeilad. Mae angen clustffonau i ddefnyddio'r ddolen sain a gellir gofyn amdanynt gan unrhyw aelod o staff. Mae dau fath o glustffonau ar gael; chwyddseinydd; a derbynnydd sy'n gydnaws â chymhorthion clyw, ac sy'n gofyn i chi droi eich cymorth clyw i safle'r 'T'.

Cŵn cymorth

Mae croeso i gŵn cymorth. Rhowch wybod i'r Swyddfa Docynnau wrth archebu'ch tocynnau a byddant yn eich helpu i ddod o hyd i'r sedd fwyaf addas. Gellir darparu powlenni o ddŵr ar gais.

Gwybodaeth Gadael mewn Argyfwng

Os bydd angen gadael yr adeilad mewn argyfwng, bydd larwm gweledol a chlywedol. Bydd ein tîm blaen tŷ yn rhoi cyfarwyddiadau ar sut i adael yr adeilad, y mannau ymgynnull agosaf a'r ardaloedd lloches.

Llyfryn

Gellir darparu'r llyfryn mewn print bras ac mewn fformatau eraill ar gais. E-bostiwch: theatrau@sirgar.gov.uk