Sut i ddod o hyd i ni

Mae’r Lyric yn rhan o hen dref Caerfyrddin ar Stryd y Brenin, o fewn tafliad carreg o feysydd parcio a’r gorsafoedd trên a bws. Mae Stryd y Brenin yn rhwydd i'w ffeindio pan gyrhaeddwch Caerfyrddin, ond mae’r Lyric yn dda am guddio ei hun. Mae blaen yr adeilad yn gudd y tu ôl i adeiladau eraill, ond fe welwch ganopi wrth flaen yr adeilad. Dyna lle mae’r drws mynediad. Peidiwch a cael eich twyllo – mae’r Lyric fel Tardis! Isod cewch fwy o wybodaeth am sut i gyrraedd y Lyric.

Mewn Car

O’r Dwyrain: O’r M4 dilynnwch yr A48 tuag at Caerfyrddin. Wrth i chi gyrraedd y dref, arhoswch i’r dde a cymerwch y 3ydd allanfa o’r gylchfan ar yr A40 (Gorllewin). Ar y gylchfan nesaf, cymerwch yr allanfa gyntaf a dilynwch arwyddion am ganol y dref (A484). Unwaith cyrrhaeddwch y bont arhoswch i’r dde a dilynwch yr A484 i’r dwyrain tan i chi gyrraedd cylchfan fach. Cymerwch yr allanfa gyntaf a fydd yn mynd a chi i Faes Parcio St Peters sydd munudau o’r Lyric.

O Sir Benfro (Gorllewin): O San Clêr dilynnwch yr A40 mewn i Gaerfyrddin. Wrth i chi gyrraedd y cylchfan arhoswch i’r chwith a dilynnwch arwyddion am ganol y dref (A4242). Ewch yn nsyth ymlaen ar y ddau gylchfan nesaf, wedyn arhoswch i’r chwith yn dilyn arwyddion yr A484. Dilynnwch yr heol nes i chi gyrraedd cylchfan fach. Cymerwch yr allanfa gyntaf a fydd yn mynd a chi i Faes Parcio St Peters sydd munudau o’r Lyric.

Ar gyfer unrhywun sy’n defnyddio SatNav, côd post y Lyric yw SA31 1BD.

Parcio

Arhosiad byr – Mae maes parcio arhosiad byr St Peters ar agor rhwng 8yb a 6yh o Ddydd Llun i Ddydd Sadwrn. Mae’r maes parcio yma am ddim o 6yh ac ar Dydd Sul.

Arhosiad Hir – Mae parcio arhosiad hir hefyd ar gael yn St Peters.

Am wybodaeth cyfoes am y meysydd parcio i gyd ymwelwch â thudalen barcio’r cyngor neu i'r wefan neu cliciwch yma.

(http://www.carmarthenshire.gov.uk/english/transport/parking/pages/carparkcharges.aspx)

Ar goets neu fws

Mae gorsaf fysiau Caerfyrddin ar Blue Street yn agos i ganol y dref. Mae’r Lyric o fewn munudau o yma.

Am wybodaeth teithio cysylltwch â:

First Cymru Group: www.firstgroup.com neu galwch 01792 512255

Ar y Trên

Mae First Great Western ac Arriva Trains Wales yn darparu gwasanaethau rheolaidd i Gaerfyrddin. Am wybodaeth cysylltwch â: Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 484950

www.gwr.com

www.networkrail.co.uk

www.arrivatrainswales.co.uk